Digwyddiadau
- Y gwladweinydd Athenaidd, Demosthenes, yn teithio i'r Peloponnesos i geisio gwrthweithio dylanwad Macedonia. Nid yw'n cael llawer o lwyddiant, gan fod llawer o ddinasoedd y Peloponnesos yn ffafrio Philip II, brenin Macedon dros Athen. Mae Demosthenes yn traddodi ei Ail Philipig, ymosodiad chwerw ar Philip.
- Uchelwyr dinas Siracusa ar ynys Sicilia yn apelio at y fam-ddinas, Corinth, yn erbyn eu tyrannos Dionysius II. Mae'r cadfridog Corinthaidd Timoleon yn glanio yn Tauromenium (Taormina), yn gorchfygu Dionysius a'i gyngheiriad Hicetas, a gyrru Dionysius i alltudiaeth.
Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article