factograf
CY

Peloponnesos

Peloponnesos

Key facts

arwynebedd22,200km²
uchder uwch na lefel y môr2,407m
enghraifft o'r canlynolgorynys, rhanbarth daearyddol, Rhanbarthau daearyddol Groeg
gwladwriaethGwlad Groeg
lleolir yn yr ardal weinyddolGwlad Groeg
disgrifiwyd gan y ffynhonnellGwyddoniadur Sofiet-Armeniaidd
All data from the card 8
Math
gorynys, rhanbarth, Rhanbarthau daearyddol Groeg
Enwyd ar ôl
Pelops
Gwlad
Gwlad Groeg
Arwynebedd
22,200 km²
Uwch y môr
2,407 metr, 994 metr
Gerllaw
Môr y Canoldir, Môr Adria, Môr Aegeaidd
Yn ffinio gyda
Attica (rhanbarth)
Cyfesurynnau
37.4°N 22.3°E
Y Peloponnesos
Y Peloponnesos

Penrhyn yn ne Gwlad Groeg ac un o Beriffereiau Groeg yw'r Peloponnesos (Groeg: Πελοπόνησος Pelopónnisos). Ffurfia'r rhan o dir mawr Groeg sydd i'r de o Gwlff Corinth, ac fe'i cysyllrir a'r gweddill o dir mawr Groeg gan Isthmws Corinth. Ers adeiladu Camlas Corinth yn 1893, gellir ei ystyried yn dechnegol yn ynys. Nid yw Perifferi Peloponnesos yn cynnwys y cyfan o'r Peloponnesos daearyddol; mae rhan o hwnnw ym mheriffereiau Gorllewin Groeg ac Attica.

Heblaw am y cysylltiad dros y tir, neu yn awr ar draws Camlas Corinth, cysylltir y Peloponnesos a'r gweddill o Wlad Groeg gan bont, Pont Rio-Antirio a orffenwyd yn 2004, ar draws Gwlff Corinth.

Mae gan y Peloponnesos arwynebedd o 21,549 km² (8,320 milltir sgwar). Ardal fynyddig ydyw; y copa uchaf yw Mynydd Taygetus. Mae pedwar penrhyn, Messenia, Penrhyn Mani, Penrhyn Malea (neu Epidaurus Limera), ac Argolis.

Prif ddinasoedd y Peloponnesos, gydag ystadegau poblogaeth 2001, yw:

  • Patras (169,242)
  • Kalamata (54,065)
  • Corinth (30,434)
  • Tripoli (28,976)
  • Argos (25,068)
  • Pyrgos (24,765)
  • Aigion (21,966)
  • Sparta (16,473)
  • Nafplio (13,124)

Ceir nifer o safleoedd archaeolegol pwysig iawn yn y Peloponnesos hefyd, yn eu plith Epidaurus, Mycenae, Olympia a Tiryns, yn ogystal â hen ddinasoedd Corinth a Sparta.

Read next

In 89 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article