Digwyddiadau
- Byddin Ymerodraeth Persia dan y brenin Artaxerxes III yn ymosod ar yr Aifft. Gorfodir brenin yr Aifft, Nectanebo II, i ffoi i Memphis, yna i Nubia. Daw'r Aifft yn rhan o Ymerodraeth Persia.
- Philip II yn ymgyrchu yn erbyn Cersobleptes, brenin Thrace, ac yn ei orchfygu mewn nifer o frwydrau.
- Yn yr Eidal, maer'r Samnitiaid yn ymosod ar Campania. Mae dinasyddion Capua yn apelio am gymorth Gweriniaeth Rhufain, gan ddechrau'r Rhyfel Samnitaidd Cyntaf.