Philip II, brenin Macedon yn ymgyrchu yn erbyn y Scythiaid. Mewn brwydr gerllaw safle Dobruja heddiw, gorchfygir y Scythiaid, a lleddir eu brenin, Ateas.
Philip II yn cyhuddo dinasyddion Amfissa, yn Locris, o feddiannu tir cysegredig, ac yn ymosod arnynt. Mae Philip yn arwain byddin trwy fwlch Thermopylae, ac yn gorchfygu byddin Locraidd dan yr hurfilwr Athenaidd Chares.
Xenocrates yn cael ei benodi'n bennaeth yr Academi yn Athen i olynu Speusippus.