Digwyddiadau
- Nabis, rheolwr Sparta, yn cael dinas Argos gan Philip V, brenin Macedon, fel gwobr am wneud cynghrair yn erbyn Gweriniaeth Rhufain. Mae Nabis wedyn yn troi i ochr y Rhufeiniaid.
- Brwydr Cynoscephalae yn Thessalia; byddin Rufeinig dan Titus Quinctius Flamininus yn gorchfygu byddin Macedon dan Philip V. Dan delerau'r cytundeb heddwch sy'n dilyn, rhaid i Philip ildio yr holl ddinasoedd Groegaidd y mae wedi eu concro a thalu 1,000 talent i Rufain.
- Eumenes II yn dod yn frenin Pergamon wedi marwolaeth ei dad, Attalus I Soter.
- Antiochus III, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, yn meddiannu rhannau o dernas Pergamon ac amryw o ddinasoedd Groegaidd Anatolia.
Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article