Brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, Demetrius I Soter, yn cynnig ei chwaer i Ariarathes V, brenin Cappadocia, mewn priodas. Ar gais Gweriniaeth Rhufain, mae Ariarathes yn gwrthod y cynnig. Ymateb Demetrius yw ymosod ar Cappadocia a dioeseddu Ariarathes, gan roi Orophernes Nicephorus ar yr orsedd yn ei le.
Attalus II Philadelphus, ail fab Attalus I Soter, yn dod yn frenin Pergamon ar farwolaeth ei frawd, Eumenes II.
Genedigaethau
Publius Rutilius Rufus, Conswl Rhufeinig, gwleidydd, areithiwr a hanesydd.
Marwolaethau
Eumenes II, brenin Pergamon ers 197 CC. Dan ei deyrnasiad ef, cyrhaeddodd Pergamon uchafbwynt ei grym.