Digwyddiadau
- Yn Sbaen, mae'r Lusitani yn ymosod ar y taleithiau Rhufeinig dan ei harweinydd Punicus ac yna Cesarus. Maent yn cyrraedd cyn belled a Gibraltar cyn cael eu gorchfygu gan y praetor Lucius Mummius.
- Byddin Gweriniaeth Rhufain dan y conswl Publius Cornelius Scipio Nasica Corculum yn ymosod ar y Dalmatiaid ac yn eu gorfodi i dalu teyrnged i Rufain.
- Menander I yn dod yn frenin teyrnas Helenistaidd yng ngogledd-orllewin India.