Brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, Demetrius I, yn ymgyrchu yn y dwyrain, ac yn gadael rhan orllewinol yr ymerodraeth yng ngofal ei gadfridog Bacchides.
Yn dilyn cais am gymorth gan yr Archoffeiriad Alcimus, mae Bacchides yn arwain byddin i Judea ar ôl lladd nifer fawr o'r Assideaid yng Ngalilea. Mae'n gwarchae ar Jeriwsalem, ond mae Jiwdas Maccabeus a llawer o'i ddilynwyr yn llwyddo i ddianc o'r ddinas.
Brwydr Elasa, ger Ramallah heddiw; mae Bacchides yn gorchfygu Jiwdas Maccabeus, a leddir yn y frwydr. Dilynir ef gan ei frawd, Jonathan.
Demetrius I yn gorchfygu a lladd Timarchus, oedd wedi gwrthryfela yn ei erbyn, ac yn cael y cyfenw Soter ("Gwaredwr") gan y Babylonianid, am eu gwaredu o ormes Timarchus.
Yn dilyn marwolaeth Timarchus, mae Mithradates I, brenin Parthia, yn meddiannu Media.