Carthago yn gorffen talu ei dyled i Rufain yn ôl y cytundeb heddwch wedi i Hannibal gael ei orchfygu. Barn arweinwyr Carthago yw bod hyn yn dod a'r cytundeb i ben, ond nid yw Rhufain yn cytuno.
Massinissa, brenin Numidia yn ymosod ar diriogaethau Carthago, gan warchae ar ddinas. Mae Carthago'n codi byddin i'w wrthwynebu.
Ar gais yr hanesydd Polybius, mae Scipio Aemilianus yn perswadio Cato yr Hynaf i ryddhau'r 300 Groegwr oedd wedi eu cadw yn Rhufain ers 167 CC.