factograf
CY
Sign in

Midasolam

Midasolam
All data from the card 25
Enghraifft o:
math o endid cemegol
Math
benzodiazepine drug
Màs
325.078 uned Dalton
Fformiwla gemegol
C₁₈h₁₃clfn₃
Clefydau i'w trin
Anhwylder gorbryder, dementia cynyrfiadol, cyflwr epileptig
Beichiogrwydd
Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d
Gwneuthurwr
Pfizer
Freebase
/M/02_7lx
CAS
59467-70-8
PubChem CID
4192
ChEBI
6931
ChEMBL
Chembl655
ChemSpider
4047
UNII
R60l0sm5bc
ATC
N05cd08
KEGG
C07524, d00550
Llawlyfr Ligand
3342
Rhif EC
261-774-5
Drugbank
Db00683
ECHA
100.056.140
HMDB
Hmdb0014821
PDB
3u5k
RxNorm CUI
6960
UMLS CUI
C0026056
NDF-RT
N0000147927

Mae midasolam, sy’n cael ei farchnata dan yr enw masnachol Versed ymysg eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer anesthesia, tawelyddu ar gyfer triniaethau, anawsterau cysgu, a chynnwrf difrifol. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₈H₁₃ClFN₃. Mae midasolam yn gynhwysyn actif yn Buccolam..

Sgil effeithiau

Gall sgil effeithiau gynnwys gostyngiad mewn ymdrechion i anadlu, pwysedd gwaed isel a chysgadrwydd. Mae'n bosibl y bydd goddefgarwch i'w heffeithiau a symptomau diddyfnu o roi'r gorau i'r cyffur yn dilyn defnydd hirdymor. Gall effeithiau paradocs, megis gweithgaredd uwch, ddigwydd yn enwedig ymhlith plant a phobl hŷn. Mae tystiolaeth o risg pan gaiff ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd ond nid oes tystiolaeth o niwed gydag un dos yn ystod bwydo ar y fron. Mae'n perthyn i'r dosbarth bensodiasepin ac mae'n gweithio trwy'r niwrodrosglwyddydd GABA.

Hanes

Dechreuwyd defnyddio midazolam gyntaf ym 1976. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae midazolam ar gael fel meddyginiaeth generig ac nid yw'n ddrud iawn. Mae'r gost gyfanwerthu ffiol yn y byd datblygol tua 0.35 doller UDA. Mewn llawer o wledydd, mae'n sylwedd rheoledig.

Defnydd meddygol

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • anhwylder gorbryder
  • dementia cynyrfiadol
  • cyflwr epileptig
  • Mae'n gweithio trwy ysgogi cysgu, lleihau pryder, ac achosi colli'r gallu i greu atgofion newydd. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddiol ar gyfer trin ffitiau. Gall midazolam gael ei weini trwy'r genau, yn fewnwythiennol, trwy chwistrelliad i mewn i gyhyr, wedi'i chwistrellu i'r trwyn, neu yn y boch. Pan gaiff ei roi yn fewnwythiennol, fel rheol mae'n dechrau gweithio o fewn pum munud; pan gaiff ei chwistrellu i mewn i gyhyr, gall gymryd pymtheg munud i ddechrau gweithio. Mae effeithiau'n para rhwng un a chwe awr.

    Enwau

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Midasolam, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • Versed®
  • Dormicum®
  • Read next

    In 52 languages

    Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article