Mae amicacin yn wrthfiotic a ddefnyddir i drin nifer o heintiau bacteriol. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₂H₄₃N₅O₁₃. Gwrthfiotig yw amikacin ac fe'i defnyddir i drin amryw o heintiau bacteriol. Gall y rheini gynnwys heintiau yn y cymalau, heintiau intra-abdomenol, llid yr ymennydd, niwmonia, sepsis, a heintiau ynghylch y llwybr wrinal. Fe'i defnyddir hefyd i drin y diciâu, cyflwr sy'n gwrthsefyll amryw o gyffuriau. Rhoddir y gwrthfiotig naill ai drwy chwistrelliad i mewn i wythïen neu gyhyr.
Sgil effeithiau
Gall Amikacin, fel gwrthfiotigau aminoglycosid eraill, achosi rywun i golli ei clyw, arwain at broblemau balans a phroblemau ynghylch yr arennau. Mae sgil effeithiau eraill yn cynnwys paralys, sy'n arwain at anallu i anadlu. Os caiff ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd fe all arwain at fyddardod parhaol yn y baban. Gweithia Amikacin drwy rwystro swyddogaeth is-uned ribosomol 30S y bacteria, sy'n ei atal rhag gynhyrchu proteinau.
Hanes
Rhoddwyd Amikacin oddi tan batent ym 1971 ac fe ddefnyddiwyd ar gyfer dibenion masnachol ym 1976. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Cost gyfanwerthol fisol y gwrthfiotig yn y byd datblygol yw 13.80 i 130.50 o ddoleri. Yn yr Unol Daleithiau y mae rhaglen triniaeth gyffredin yn costio 25 i 50 o ddoleri. Fe'i gwneir o ganamysin.
Defnydd meddygol
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Amicacin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
