factograf
CY
Sign in

Isabel Allende

Isabel Allende

Key facts

dyddiad geni2 Awst 1942
''alma mater''Liceo Javiera Carrera
galwedigaethnofelydd
man geniLima
aelod o'r blaid wleidyddoly Blaid Ddemocrataidd
gwobrau a dderbyniwydGwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth
gwaith pwysigTŷ'r Ysbrydion
All data from the card 11
Ganwyd
2 Awst 1942 Lima
Dinasyddiaeth
Unol Daleithiau America, Tsile
Alma mater
Liceo Javiera Carrera
Galwedigaeth
actor llais, sgriptiwr, awdur plant, nofelydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr
Adnabyddus am
Tŷ'r Ysbrydion, Zorro, A Long Petal of the Sea
Plaid Wleidyddol
plaid Ddemocrataidd
Mudiad
ffeministiaeth, realaeth hudol
Priod
Miguel Frías, Willie Gordon
Plant
Paula Frías Allende, Nicolás Frías Allende
Perthnasau
Salvador Allende, Laura Allende, Ramón Huidobro Domínguez
Gwefan
https://isabelallende.com

Awdures o Tsile yw Isabel Allende Llona (ganwyd 2 Awst 1942 yn Lima, Periw). Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar brofiadau menywod ac mae hi'n cymysgu realaeth a dychymyg i greu realaeth hudol (Magical Realism). Ymhlith ei gwaith mwyaf nodedig mae The House of the Spirits (La casa de los espíritus, 1982) a City of the Beasts (La ciudad de las bestias, 2002), a oedd hefyd yn llwyddiant o ran gwerthiant y llyfrau. Credir mai Allende yw'r "awdur sydd wedi gwerthu mwyaf o lyfrau Sbaeneg o'i chenehedlaeth".

Ganwyd Isabel Allende yn Lima, Periw, am fod ei thad, Tomás Allende; yn llysgennad Tsile i Periw. Cefnder ei thad oedd Salvador Allende, Arlywydd Tsile o 1970 i 1973. Yn 1945, symudodd y teulu yn ôl i Santiago, Tsile, tan 1953 pan ailbriododd ei mam hi â Ramón Huidobro (diplomydd arall) a symudon nhw i Bolifia, a Beirut cyn dychwelyd i Tsile yn 1958.

Priododd Miguel Frías yn 1962, a tan 1965 bu Allende yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig. Cawson nhw ferch yn 1963 a mab yn 1966. Cyflawnodd waith mam, diplomydd. Erbyn 1988, priododd Allende â gwr o Unol Daleithiau America, Willie Gordon. Daeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau yn 2003. Erbyn heddiw mae hi'n byw yn San Rafael, Califfornia.

Gwobrau

  • Grand Prix d’Evasion
  • Gwobr Gabriela Mistral (Tsile)
  • Gwobr Bancarella (Yr Eidal)
  • Chevalier des Artes et des Lettres

Gwaith

Trosiadau i'r Gymraeg:

  • Walimai gan Isabel Allende, troswyd gan Dewi Wyn Evans yn Taliesin cyf 121, Gwanwyn 2004

Gweithiau eraill:

  • Tŷ'r Ysbrydion (1982) La casa de los espíritus
  • Y Ddynes Dew Borslen (1984) La gorda de porcelana
  • Am Gariad a Chysgod (1985) De amor y de sombra
  • Eva Luna (1987)
  • Straeon Eva Luna (1989) Cuentos de Eva Luna
  • Y Cynllun Tragwyddol (1991) El plan infinito
  • Paula (1995)
  • Aphrodite: Cofiant i'r Synhwyrau (1998) Afrodita
  • Merch i Ffortun (1999) Hija de la fortuna
  • Llun Sepia (2000) Retrato en sepia
  • Dinas y Bwystfilod (2002) La ciudad de las bestias
  • Fy Ngwlad Greëdig (2003) Mi país inventado
  • Deyrnas y Ddraig Aur (2004) El reino del Dragón del Oro
  • Zorro (2005) El Zorro
  • Coedwig y Corachod (2005) El Bosque de los Pigmeos
  • Ines, fy Enaid (2006) Inés del Alma Mía
  • Cyfanswm ein dyddiau (2008) La Suma de los Días
  • "Yr Ynys o dan y Môr" (2009) "La Isla bajo el mar"

Cyfeiriadau

  • Isabel Allende, Award-Winning Latin American Author by Mary Main (2005) - ISBN 0-7660-2488-1
  • Bautista Gutierrez, Gloria and Corrales-Martin, Norma; Pinceledas Literarias Latinoamericanas, John Wiley and Sons, 2004
  • Isabel Allende's Personal Website
  • Isabel Allende's IMDb Site
  • Isabel Allende Foundation Archifwyd 2007-08-18 yn y Peiriant Wayback
  • Isabel Allende Archifwyd 2008-03-15 yn y Peiriant Wayback proffeil siaradwr gan The Lavin Agency
  • JUST 10 Questions for Isabel Allende Archifwyd 2010-01-03 yn y Peiriant Wayback at JUST CAUSE Magazine.
  • Write TV Public Television Interview with Isabel Allende Archifwyd 2016-12-06 yn y Peiriant Wayback
  • Critique of Zorro: A Novel
  • Guardian Books "Author Page", proffeil a dolenni bellach
  • Memories, Fight and Fantasy at the Hand of the Great Superhero of the Spanish Narrative - Isabel Allende in a 2006 interview
  • Interview on The Ledge Archifwyd 2007-03-10 yn y Peiriant Wayback, yn cynnwys fideo
  • Biography from the international literature festival in Berlin Archifwyd 2008-10-06 yn y Peiriant Wayback
  • TED Talks: Isabel Allende tells tales of passion Archifwyd 2008-06-26 yn y Peiriant Wayback at TED (conference) in 2007
  • 'The Knife by the Handle at Last' adolygiad gan Tim Parks o Cyfanswm ein dyddiau o The New York Review of Books
  • [1] Archifwyd 2010-05-15 yn y Peiriant Wayback Isabel Allende at the California Film Institute
  • [2] KCTS 9 Television Interview

Read next

In 76 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article