Y blaid yn ninas Carthago sy'n gwrthwynebu diwygiadau Hannibal yn hysbysu Gweriniaeth Rhufain ei fod yn annog Antiochus III, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, i ryfela yn erbyn Rhufain. Mae Rhufain yn mynnu fod y Carthaginiaid yn trosglwyddo Hannibal yn garcharor iddynt; ond mae'n osgoi hyn trwy adael Carthago.
Aiff Hannibal i lys Antiochus III, lle mae'n dod yn gynghorydd milwrol i'r brenin, gan waethygu'r berthynas rhwng Antiochus a Rhufain.
Cytundeb Lysimachia yn rhoi diwedd ar y rhyfel rhwng Antiochus III a'r Aifft. Mae Antiochus yn cael meddiant ar dde Syria
Brwydr Gythium, rhwng Sparta a Cynghrair Achaea, Rhodos, Pergamum a Gweriniaeth Rhufain. Pan mae'r proconswl Rhufeinig Titus Quinctius Flamininus yn cyrraedd gyda byddin ychwanegol, mae Nabis, tyrannos Sparta, yn gorfod encilio o Gythium, ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn ildio i'r cyngheiriaid.
Aristophanes o Byzantium, ysgolhaig Groegaidd, yn dod yn brif lyfrgellydd Llyfrgell Alexandria