factograf
CY

Ysgubor

Ysgubor

Tŷ allan dan do er mwyn storio grawn, gwair, porthiant a pheiriannau'n glyd i'u diogelu rhag y gwynt a'r glaw yw ysgubor. Yn draddodiadol, cerrig a ddefnyddid i adeiladu ysguboriau, ond erbyn hyn mae ysguboriau metel yn gyffredin hefyd. Mewn rhai gwledydd pren yw'r deunydd arferol.

Mae 'ysgubor' yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, e.e. yn enw pentref Ysgubor-y-coed, Ceredigion.

Roedd yn arfer perfformio anterliwtiau mewn ysguborau weithiau yn y 18g.

Ar lafar yng ngogledd-orllewin Cymru mae "sgubor" yn ymadrodd am ddynes flêr, e.e. "hen sgubor o ddynes".

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am amaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 75 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article