- Mae'r erthygl yma am y meddalwedd blogio. Ar gyfer y lletywr blogiau, gweler WordPress.com
Meddalwedd blogio a system rheoli cynnwys cod agored a rhydd ydy WordPress wedi ei selio ar PHP a MySQL. Mae ganddo sawl nodwedd gan gynnwys pensaernïaeth ategion a system patrymluniau. Mae WordPress yn cael ei ddefnyddio gan dros 16.7% o'r "miliwn prif wefan" yn ôl cwmni dadansoddi data'r we Alexa Internet ac o Awst 2011, dyma oedd yn gyrru 22% o holl wefannau newydd. Ar hyn o bryd WordPress ydy'r system blogio mwyaf poblogaidd ar y we.
Rhyddhawyd yn gyntaf ar 27 Mai 2003, gan Matt Mullenweg a Mike Little. Erbyn Rhagfyr 2011, roedd fersiwn 3.0 wedi cael ei lawr lwytho dros 65 miliwn o weithiau.
Hanes
Datblygwyd y rhaglen rhwng 2001 a 2002 gan Michel Valdrighi ar raglen blogio PHP o'r enw b2/Cafelog, a ryddhawyd dan drwydded GPL. Datblygwyd hwn ymhellach gan Matthew Mullenweg yn 2003 gyda'r nod o symlhau'r broses o weawduro. Cyhoeddodd hyn ar ei flog a chychwynodd weithio ar WordPress gyda Mike Little.
Dolenni allanol
- wordpress.org (Gwefan swyddogol) (Saesneg)
- cy.wordpress.org Pecyn iaith Cymraeg
- WordPress ar meddal.com
- Blogiau Cymraeg sy'n defnyddio WordPress
