factograf
CY

chwaraewr snwcer Prydeinig

Terry Griffiths

Terry Griffiths

Key facts

dyddiad geni16 Hydref 1947
dyddiad marw1 Rhagfyr 2024
galwedigaethchwaraewr snwcer
man geniLlanelli
man marwLlanelli
cyflogwrBBC
All data from the card 8
Ganwyd
Terence Martin Griffiths 16 Hydref 1947 Llanelli
Bu farw
1 Rhagfyr 2024 Llanelli
Dinasyddiaeth
Cymru
Galwedigaeth
chwaraewr snwcer
Cyflogwr
BBC
Gwobr/au
OBE
Gwefan
https://www.terrygriffithssnooker.com/
Gwlad chwaraeon
Cymru

Chwaraewr snwcer o Gymru oedd Terry Griffiths (16 Hydref 1947 – 1 Rhagfyr 2024).

Cafodd ei eni yn Llanelli. Cyn troi yn chwaraewr snwcer proffesiynol yn 1978 roedd yn bostman yn y dre a gwerthwr yswiriant. O fewn blwyddyn ennillodd pencampwriaeth y byd yn 1979, a gynhaliwyd yn y Crucible yn Sheffield. Curodd Eddie Charlton yn y rownd gyn-derfynol a Dennis Taylor yn y rownd derfynol. O ganlyniad ef oedd y chwaraewr cyntaf erioed i ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd a oedd wedi dechrau'r bencampwriaeth yn y rowndiau rhagbrofol.

Roedd yn rhedeg ei glwb snwcer ei hun yn Llanelli a Chaerfyrddin a bu'n hyfforddi Mark Williams, Stephen Hendry a Matthew Stevens. Ar ôl ymddeol o’r gamp, daeth yn sylwebydd a dadansoddwr gyda’r BBC.

Bywyd personol

Roedd yn briod ag Annette ac roedd ganddynt ddau fab, Wayne a Darren.

Bu farw yn 77 mlwydd oed wedi dioddef ers rhai blynyddoedd o dementia. Cynhaliwyd ei angladd yn Llanelli ar 23 Rhagfyr 2024.

Gwobrau
Rhagflaenydd:
Johnny Owen
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1979
Olynydd:
Duncan Evans

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am snwcer. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 26 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article