factograf
CY

tref yn Sir Gaerfyrddin

Llanelli

Llanelli

Key facts

poblogaeth37,050
enghraifft o'r canlynoltref, cymuned
gwladwriaethy Deyrnas Unedig
lleolir yn yr ardal weinyddolSir Gaerfyrddin
disgrifiwyd gan y ffynhonnellGwyddoniadur Otto
All data from the card 10
Math
tref, cymuned
Poblogaeth
37,050, 25,359, 23,422, 25,168
Gefeilldref/i
Agen
Gwlad
Cymru
Cyfesurynnau
51.68°N 4.15°W
Cod SYG
W04000519
Cod OS
SN505005
Etholaeth y Senedd
Sir Gaerfyrddin
Etholaeth y DU
Nia Griffith (Llafur)
Statws treftadaeth
Henebion Cenedlaethol Cymru
Pwnc yr erthygl hon yw tref Llanelli. Am ddefnydd arall o'r enw Llanelli gweler y dudalen gwahaniaethu ar Lanelli.

Tref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanelli. Dyma dref fwyaf y sir a de-orllewin Cymru, wedi'i lleoli ar aber Afon Lliedi rhyw 12 milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw 20 milltir i'r de o Gaerfyrddin. Mae Caerdydd 72.1 km i ffwrdd o Llanelli ac mae Llundain yn 281.6 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 15.2 km i ffwrdd.

Tyfodd y dref yn y 19g o amgylch y pyllau glo a'r gweithfeydd tun. Mae’r dref yn enwog am ei thraddodiad rygbi balch.

Mae Llanelli hefyd wedi’i hamgylchynu gan nifer o drefi a phentrefi bach a adwaenir fel Llanelli Wledig. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o dref Llanelli.

Hanes

Diwydiant

Tyfodd Llanelli yn gyflym yn ystod y 18g a’r 19g gyda’r diwydiant glo, ac ar ôl hynny fel man cynhyrchu tunplat. Roedd y dref yn lle cynhyrchu tun arwyddocaol ar lefel ranbarthol a chafodd ei henwi'n "Tinopolis." Ers i’r diwydiannau ddechrau cau yn yr 1970au, fe ddioddefodd y dref ddirywiad economaidd parhaus. Er hynny, gwelir buddsoddiad mawr ym meysydd adloniant a thwristiaeth.

  • Marshfield
  • Batchelor Robinsons
  • Moowoods
  • Thomas & Clement
  • Gwaith y Burry
  • Yr Old Lodge
  • Fowndri Waddle
  • Yr Hen Gastell
  • Stamping (a oedd yn cynhyrchu sosbenni)

Yr Iaith Gymraeg

Sefydlwyd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf gan awdurdod lleol yn Llanelli yn 1947, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.

Yn y 1950au bu Trefor ac Eileen Beasley yn ceisio cael papur treth Cymraeg gan Gyngor Gwledig Llanelli drwy wrthod talu'r dreth hyd y caent un. Ymateb y cyngor oedd eu herlyn gan anfon y bwmbeili i mewn a gwerthu eu celfi er mwyn cael arian at y dreth. Prynnodd cyfeillion gelfi iddynt. Bu raid aros tan ganol y 1960au cyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg pan dderbyniodd y cynghorau fod yn rhaid iddynt ddarparu rhai dogfennau yn Gymraeg.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym 1895, 1903, 1930, 1962 a 2000.

Terfysg 1911

Ar 19 o Awst 1911 yn ystod yr streic rheilffordd ledled Prydain roedd gwrthdaro rhwng milwyr rheolaidd o Gatrawd Swydd Gaerwrangon a picedi ar y llinell rheilffordd pwysig Llanelli wedi achosi marwolaeth o ddau wrthwynebwyr ifanc, roedd yr trais a'r ysbeilio, oedd wedi mynd ymlaen am nifer o oriau o ganlyniad i difrod i siopau a ochrau'r rheilffordd ac roedd pedwar mwy o farwolaethau pan aeth wagen ar dan a ffrwydrodd. Roedd nifer o erlyniadau yn dilyn ac roedd cwestiynau wedi cael ei ofyn yn y Senedd. Ysgrifennodd Keir Hardie pamffled yn ymosod y defnydd o lluoedd arfog mewn gwrthwynebau diwydiannol, serch hyn ni chafodd lawer o effaith ar y gwleidyddiaeth lleol.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanelli (pob oed) (25,168)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelli) (5,732)
  
23.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelli) (20423)
  
81.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanelli) (4,833)
  
43.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Chwaraeon

Rygbi

Ffurfiwyd Clwb Rygbi Llanelli yn gynnar yn yr 1870au ac mae i'r clwb hanes anrhydeddus. Trechwyd tîm cenedlaethol Seland Newydd gan dîm rygbi Llanelli a dyma'r unig dîm lleol yng ngwledydd Prydain sydd wedi gwneud hynny.

Pêl-droed

Mae gan Llanelli dîm pêl-droed o’r enw C.P.D. Llanelli sy’n chwarae yng Nghynghrair Cymru. Maen nhw’n chwarae ar barc Stebonheath, o dan reolaeth Peter Nicholas.

Golff

Mae gan ardal Llanelli dri chwrs golff, yn cynnwys Clwb Golff a Gwledig Machynys sydd yn gartref i Gampwriaeth Merched Ewrop Cymru.

Chwaraeon modur

Gelwir Cylchdaith Penbre (Pembrey Circuit) yn gartref i chwaraeon modur yng Nghymru.

Diwylliant

Mae hanes crefydd a'r capeli yn ganolog i hanes diwylliannol Llanelli. Roedd David Rees y Cynhyrfwr yn weinidog yng Nghapel Als, Jubilee Young yn Seion Llanelli a Gwyndaf yn Tabernacl Llanelli.

Y Cyfryngau

Mae gan y dref orsaf radio o’r enw Scarlet FM.

Y Llanelli Star yw'r unig bapur wythnosol yn y dref sydd wedi goroesi. Roedd tri yn cael eu cyhoeddi yn y dref ar un adeg gan gynnwys Llanelli Mercury. Yng nghanol y 1970au dechreuwyd cyhoeddi Llanelli News ond ni pharhaodd mwy nag ychydig flynyddoedd.

Mae Llanelli'n gartref i Gwmni Teledu Tinopolis sydd yn un o’r cynhyrchwyr annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r cwmni sy'n cynhyrchu'r rhaglen deledu ‘Wedi 7’ a ddarlledir ar yn fyw yn ddyddiol ar S4C.

Theatr a sinema

Agorwyd Y Ffwrnes yn hwyr yn 2012, gan ddod yn lle yr hen Theatr Elli a oedd yn ganolfan adloniant i'r dre. Cynhelir nifer o sioeau yn y theatr yn cynnwys nifer o gynyrchiadau cerddorol a dramâu gan grwpiau lleol.

Trafnidiaeth

Arfbais Cyngor Trefol Llanelli
Arfbais Cyngor Trefol Llanelli
Neuadd Tref Llanelli
Neuadd Tref Llanelli
2 images

Cysylltir y dref â thraffordd yr M4 gan yr A4138. I gyrraedd y dref oddi ar yr M4 deler oddi arni ar gyffordd 48.

Bws – Mae Llanelli yn cael ei gwasanaethu yn gyson gan wasanaethau bws lleol rhwng Abertawe a Chaerfyrddin.

Lleolir yr orsaf drenau rhyw filltir i’r de o ganol y dref. Mae trenau Llundain i Abergwaun yn mynd drwy'r orsaf hon a hefyd llinell drenau Calon Cymru o Abertawe i Amwythig.

Mae tref Llanelli o fewn etholaeth seneddol Llanelli ac etholaeth Cynulliad Llanelli Cynrychiolydd San Steffan yw Nia Griffith ac un y Cynulliad yw Keith Davies. Llafur (2011 -)Yn 1945 enillodd ymgeisydd Llafur (James Griffiths) y mwyafrif mwyaf yn hanes etholiadau seneddol Prydeinig (34,117)

Caiff rhan o'r dref ei llywodraethu ar lefel leol gan Gyngor Tref Llanelli a rhan gan Gyngor Gwledig Llanelli, a'r cwbl gan Gyngor Sir Gaerfyrddin ar lefel sirol.

Daeth Cyngor Tref Llanelli i rym ar 1af Ebrill, 1974. Rhennir ei hardal weinyddiaeth i 5 ward: Bigyn, Elli, Glanymor, Lliedi a Tyisha, sy'n cael eu cynrychioli gan 20 cynghorydd.

Gefeilldref Llanelli yw Agen yn Ffrainc.

Enwogion

Atyniadau lleol

Dolenni allanol

Trefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin

Trefi
Caerfyrddin  · Castellnewydd Emlyn  · Cydweli  · Hendy-gwyn  · Llandeilo  · Llanelli  · Llanybydder  · Llanymddyfri  · Porth Tywyn  · Rhydaman  · Sanclêr  · Talacharn
Pentrefi
Aberarad  · Aberbowlan  · Abercrychan  · Abergorlech  · Abergwili  · Aber-nant  · Alltwalis  · Babel  · Bace  · Bancycapel  · Bancyfelin · Y Betws · Bethlehem  · Blaengweche  · Blaenos  · Blaen-waun  · Blaen-y-coed  · Brechfa  · Broadway  · Bronwydd  · Bron-y-gaer  · Bryn  · Brynaman  · Bryn Iwan  · Bwlch-clawdd  · Bwlchnewydd  · Bynea  · Caeo  · Capel Dewi  · Capel Gwyn  · Capel Hendre  · Capel Isaac  · Capel Iwan  · Capel Seion  · Carmel  · Carwe  · Cefn-bryn-brain  · Cefneithin  · Cefn-y-pant  · Cenarth  · Cilgwyn  · Cilsan  · Cil-y-cwm  · Croesyceiliog  · Cross Hands  · Crug-y-bar  · Crwbin  · Cwm-ann  · Cwm-bach (1)  · Cwm-bach (2)  · Cwm-du  · Cwmduad  · Cwmfelin-boeth  · Cwmfelinmynach  · Cwmgwili  · Cwmhiraeth  · Cwmifor  · Cwmisfael  · Cwmllyfri  · Cwm-miles  · Cwm-morgan  · Cwm-pen-graig  · Cwrt-henri  · Cwrt-y-cadno  · Cynghordy  · Cynheidre  · Cynwyl Elfed  · Derwen-fawr  · Derwydd  · Dinas  · Dolgran  · Dre-fach  · Dre-fach Felindre · Dryslwyn  · Dyffryn Ceidrych  · Efail-wen  · Esgair  · Felin-foel  · Felin-gwm  · Felin-wen  · Foelgastell  · Ffair-fach  · Ffaldybrenin  · Ffarmers  · Fforest  · Ffynnon  · Garnant  · Garthynty  · Gelli-aur  · Gelli-wen  · Glanaman  · Glan Duar  · Glan-y-fferi  · Gorllwyn  · Gors-las  · Gwernogle  · Gwyddgrug  · Gwynfe  · Hebron  · Yr Hendy  · Henllan  · Henllan Amgoed  · Hermon  · Horeb  · Login  · Llanarthne  · Llanboidy · Llan-dawg  · Llandeilo Abercywyn  · Llandre (1)  · Llandre (2)  · Llandybïe  · Llandyfaelog  · Llandyry  · Llanddarog  · Llanddeusant  · Llanddowror  · Llanedi  · Llanegwad  · Llanfair-ar-y-bryn  · Llanfallteg  · Llanfihangel Aberbythych  · Llanfihangel Abercywyn  · Llanfihangel-ar-Arth  · Llanfihangel-uwch-Gwili  · Llanfynydd  · Llangadog  · Llan-gain  · Llangathen  · Llangeler  · Llangennech  · Llanglydwen  · Llangyndeyrn  · Llangynin  · Llangynnwr  · Llangynog  · Llanishmel  · Llanllawddog  · Llan-llwch  · Llanllwni  · Llanmilo  · Llannewydd  · Llannon  · Llanpumsaint  · Llansadwrn  · Llan-saint  · Llansawel  · Llansteffan  · Llanwinio  · Llanwrda  · Llan-y-bri  · Llanycrwys  · Llwyn-croes  · Llwynhendy  · Llwyn-y-brain (1)  · Llwyn-y-brain (2)  · Maenordeilo  · Maerdy  · Maes-y-bont  · Marros  · Meidrim  · Meinciau  · Merthyr  · Morfa  · Myddfai · Mynydd-y-garreg  · Nantgaredig  · Nant-y-caws  · New Inn  · Pant-gwyn  · Pantyffynnon  · Parc-y-rhos  · Pedair Heol  · Pen-boyr  · Pen-bre  · Pencader  · Pencarreg  · Peniel  · Penrherber  · Penrhiw-goch  · Pentrecagal  · Pentrecwrt  · Pentrefelin  · Pentre Gwenlais  · Pentre Tŷ-gwyn  · Pentywyn  · Pen-y-banc  · Pen-y-bont (1)  · Pen-y-bont (2)  · Pen-y-garn  · Pen-y-groes  · Pinged  · Plas  · Pont Aber  · Pontaman  · Pontantwn  · Pont-ar-Gothi  · Pont-ar-llechau  · Pont-ar-sais  · Pont Hafod  · Pont-henri  · Pont-iets  · Pont-tyweli  · Pontyberem  · Porth-y-rhyd  · Pum Heol  · Pumsaint  · Pwll  · Pwll-trap  · Ram  · Rhandir-mwyn  · Rhos  · Rhosaman  · Rhos-goch  · Rhos-maen  · Rhydargaeau  · Rhydcymerau  · Rhyd Edwin  · Rhydowen  · Rhyd-y-wrach  · Salem  · Sandy  · Sarnau  · Saron (1)  · Saron (2)  · Soar  · Sylen  · Taliaris  · Talog  · Talyllychau  · Tir-y-dail  · Trap  · Trefechan  · Trelech  · Trimsaran  · Twynllannan  · Tŷ-croes  · Y Tymbl  · Waunclunda  · Waun y Clyn  · Ystrad Ffin

Read next

In 38 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article