Mae Stockard Channing (ganed Susan Antonia Williams Stockard; 13 Chwefror 1944) yn actores llwyfan, ffilm a theledu o'r Unol Daleithiau.
Fe'i hadnabyddir yn bennaf am chwarae Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau Abbey Bartlet yn y gyfres deledu NBC The West Wing; am ei rôl fel Betty Rizzo yn y ffilm Grease; Veronica Loy yn The Good Wife; ac am chwarae Ouisa Kittredge yn y ddrama Six Degrees of Separation. Chwaraeodd yr un rhan mewn fersiwn ffilm o'r ddrama o'r un teitl, ac enwebwyd ei pherfformiad am Wobr yr Academy i'r Actores Orau.