Actores o Ffrainc oedd Sarah Bernhardt (22 Hydref 1844 – 26 Mawrth 1923). Daeth yn enwog trwy Ewrop yn y 1870au, ac ymledodd ei henwogrwydd i'r Unol Daleithiau hefyd.
Ganed hi yn ninas Paris fel Marie Henriette Bernardt, yn ferch i Julie Bernardt a thad oedd efallai o'r Iseldiroedd. Roedd ei thaid, Moritz Bernardt, yn fasnachwr Iddewig yn Amsterdam.
Dechreuodd actio yn 1862 pan oedd yn astudio yn y Comédie-Française. Er mai actio ar y llwyfan yr oedd yn bennaf, gwnaeth nifer o recordiadau o ddialogau o ddramau; y cynharaf oedd darlleniad o Phèdre gan Jean Racine, yng nghartref Thomas Edison yn Efrog Newydd yn y 1880au. Roedd yn un o arloeswyr y ffilmiau distaw, gan berfformio mewn ffilm am y tro cyntaf fel Hamlet mewn ffilm ddau funud o hyd yn 1900.
Yn 1905, anafodd ei choes tra'n perfformio yn Rio de Janeiro, ac yn 1915 bu raid torri'r goes ymaith, ond parhaodd i berfformio. Bu farw yn 1923, a chladdwyd hi ym Mynwent Père Lachaise, Paris.
Ymweld â Chymru
Ymwelodd a Chymru yn ystod ei thaith fawr ym 1899. Ar 20 Tachwedd 1899, perfformiodd La Tosca yn Theatr y Grand, Caerdydd, i gynulleidfa frwdfrydig o filoedd. Roedd hyn yn rhan o gyfres o berfformiadau yng Nghaerdydd, gan gynnwys Hamlet a La Dame aux Camélias, lle cafodd gryn ganmoliaeth gan y wasg leol. Derbyniodd swm o £500 am ganu mewn un perfformiad yn y Grand (tua £70,000 heddiw). Mae'n foment nodedig yn hanes theatr Caerdydd, gyda'r Theatr Newydd (1891) yn ei dyfynnu'n ddiweddarach fel un o'u perfformwyr nodedig.
Llyfrau ganddi
- Dans les Nuages, Impressions d'une Chaise Charpentier (1878)
- L'Aveu, drame en un acte en prose (1888)
- Adrienne Lecouvreur, drame en six actes (1907)
- Ma Double Vie (1907)
- Un Coeur d'Homme, pièce en quatre actes (1911)
- Petite Idole (1920)
- L'Art du Théâtre: la voix, le geste, la prononciation, etc.
