factograf
CY
Sign in

Rick Astley

Rick Astley

Key facts

dyddiad geni6 Chwefror 1966
galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, cyflwynydd radio, cerddor
man geniNewton-le-Willows
gwaith pwysigNever Gonna Give You Up
All data from the card 10
Ganwyd
6 Chwefror 1966 Newton-le-Willows
Man preswyl
East Molesey
Label recordio
Sony Music, Stock, RCA Records, Polydor Records
Dinasyddiaeth
y Deyrnas Unedig
Galwedigaeth
canwr-gyfansoddwr, cyflwynydd radio, cerddor, canwr
Adnabyddus am
Never Gonna Give You Up, Whenever You Need Somebody, Are We There Yet?, Beautiful Life
Arddull
blue-eyed soul, cerddoriaeth ddawns, pop dawns, disgo, cerddoriaeth yr enaid
Math o lais
lyric baritone
Priod
Lene Bausager
Gwefan
https://www.rickastley.co.uk

Canwr a chyfansoddwr caneuon o Loegr yw Rick Astley (ganwyd 6 Chwefror 1966). Mae'n fwyaf enwog am ei gân o 1987, "Never Gonna Give You Up". Cyrhaeddodd y gân #1 mewn siartiau cerddoriaeth 25 gwlad gwahanol. Erbyn 1993, cafodd tua 40 miliwn o recordiau Astley eu gwerthu. Wedi iddo ymddeol yn 1993, dychwelodd Astley nôl i'r byd enwogrwydd diolch i'r meme gwe poblogaidd "Rickrolling". Cafodd Astley ei enwi'r "Act Gorau Erioed" gan bleidleiswyr yr MTV Europe Music Awards yn 2008.

Ganwyd Astley yn Glannau Merswy, Lloegr i deulu dosbarth canol. Ysgarodd ei rhieni pan yr oedd yn 5 mlwydd oed a chafodd Astley a'i tri siblingiaid eu magu gan eu tad. Dechreuodd Astley i ganu yn côr ei ysgol pan oedd yn 10 mlwydd oed ac yn ystod ei fywyd ysgol, perfformiodd Astley fel drymiwr mewn nifer o fandiau lleol. Yn 1985 roedd Astley yn drymio i fand lleol FBI ond, wrth i prif ganwr y fand adael, penderfynodd Astley i ganu yn ei le. Wrth berfformio un noson, cafodd Astley ei weld gan Pete Waterman a dechreuodd ei yrfa canu proffesiynol.

Rick Rollio

Yn 2007 fe ddaeth Rick yn rhan o 'meme' feiral ar draws y rhyngrwyd o'r enw RickRolling. Mae defnyddiwr y rhyngrwyd yn cael eu twyllo i wylio fideo o'r gân "Never going to give you up" trwy ddilyn cyswllt i'r fideo. Ar y cyntaf o Ebrill fe dwyllodd y wefan YouTube eu gwylwyr gan ddangos y fideo ar bob fideo yr oedd gwylwyr yn clicio arno.

Ond er gwaetha'r ffaith bod ei fideo wedi cael miliynau o hits dim ond $12 cafodd Astley mewn breindaliadau (cymerodd y cwmni recordio y mwyafrif).

Disgyddiaeth

  • Whenever You Need Somebody (1987)
  • Hold Me In Your Arms (1989)
  • Dance Mixes (1990)
  • Free (1991)
  • Body & Soul (1993)
  • 12 Inch Collection (1999)
  • Together Forever - Greatest Hits and More... (2000)
  • Keep It Turned On (2001)
  • Greatest Hits (2002)
  • The Best of Rick Astley - Never Gonna Give You Up (2003)
  • Love Songs (2004)
  • Platinum & Gold Collection (2004)
  • Artist Collection: Rick Astley (2004)
  • Portrait (2005)
  • Collections (2006)
  • Together Forever - The Best of Rick Astley (2007)
  • Ultimate Collection (2008)
  • Playlist: The Very Best of Rick Astley (2008)

Read next

In 57 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article