factograf
CY

actor (1934–2025)

Richard Chamberlain

Richard Chamberlain

Key facts

dyddiad geni31 Mawrth 1934
dyddiad marw29 Mawrth 2025
''alma mater''Ysgol Uwchradd Beverly Hills
galwedigaethcanwr, actor teledu, actor ffilm
man geniBeverly Hills
gwobrau a dderbyniwydGwobr Steiger
All data from the card 9
Ganwyd
George Richard Chamberlain 31 Mawrth 1934 Beverly Hills
Bu farw
29 Mawrth 2025 o strôc Waimānalo
Label recordio
MGM Records
Dinasyddiaeth
UDA
Alma mater
Ysgol Uwchradd Beverly HillsColeg Pomona, California
Galwedigaeth
canwr, actor teledu, actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, cyfarwyddwr theatr, hunangofiannydd, artist recordio, actor, cerddor
Mam
Elsa Winnifred von Fisher von Benzon-Matthews
Partner
Wesley Eure, Martin Rabbet
Gwobr/au
Gwobr Steiger, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr yr Actor Gorau yng Ngŵyl Ffilm Sitges

Actor a chanwr o'r o'r Unol Daleithiau oedd George Richard Chamberlain (31 Mawrth 1934 – 29 Mawrth 2025). Daeth yn boblogaidd yn rôl deitl y sioe deledu Dr. Kildare (1961–1966). Wedyn, enillodd y teitl “Brenin y gyfres fach” am ei waith mewn sawl cyfres deledu, fel Centennial (1978), Shōgun (1980), a The Thorn Birds (1983). Ef oedd y cyntaf i chwarae rhan Jason Bourne yn y ffilm deledu The Bourne Identity ym 1988. Perfformiodd Chamberlain rannau clasurol ar lwyfan hefyd, a gweithiodd ym myd theatr gerdd.

Bywyd cynnar

Cafodd Chamberlain ei eni yn Beverly Hills, Califfornia, yn ail fab i Elsa Winnifred (née von Benzon; Matthews yn ddiweddarach) a Charles Axion "Chuck" Chamberlain; roedd Chuck yn werthwr offer siop o Indiana. Roedd ei fam o dras Almaenig rhannol.

Roedd gan Chamberlain frawd William, a oedd yn gweithio ochr yn ochr â'u tad yn y busnes teuluol. Ym 1952, graddiodd Chamberlain o Ysgol Uwchradd Beverly Hills, ac yn ddiweddarach mynychodd Goleg Pomona, lle derbyniodd radd baglor mewn hanes celf a phaentio. Cafodd Chamberlain ei ddrafftio i Fyddin yr Unol Daleithiau a gwasanaethodd o 1956 i 1958. Cyrhaeddodd reng rhingyll.

Ffilmiau

  • The Music Lovers (1970),
  • Lady Caroline Lamb (fel Arglwydd Byron; 1973),
  • The Three Musketeers (1973)
  • The Four Musketeers (1974)
  • The Towering Inferno (1974)
  • The Count of Monte Cristo (1975).
  • The Slipper and the Rose (1976)
  • The Last Wave (1977)
  • King Solomon's Mines (1985)
  • The Return of the Musketeers (1989);
  • Lost City of Gold (1986)

Llyfryddiaeth

  • Chamberlain, Richard (3 Mehefin 2003). Shattered Love: A Memoir. New York: Regan Books. ISBN 0-06-008743-9. OCLC 52178565.

Read next

In 57 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article