
Seren ddisgleiriaf yng nghytser Canis Minor yw Procyon (hefyd α CMi, α Canis Minor, Alpha Canis Minor). Fel arfer, mae Procyon yn bedwaredd o'r sêr disgleiriaf yn awyr y nos yn hemisffer y Gogledd, gan gyrraedd ei hanterth am hanner nos ar 14 Ionawr. Mae'n meddiannu un gornel o seroliaeth Triongl y Gaeaf.
Mae Procyon yn seren ddwbl. Mae Procyon A (maint ymddangosiadol o 0.34) yn fwy disglair; ei chydymaith, Procyon B, yn wannach (maint 10.7).
Mae'r enw "Procyon" yn deillio o'r Hen Roeg Προκύων (Prokyon), sy'n golygu "cyn y ci", gan ei fod yn rhagflaenu "Seren y Ci", sef Sirius yng nghytser Canis Major, y seren fwyaf amlwg yn yr wybren, wrth iddi deithio ar draws awyr y nos.
