factograf
CY
Sign in

rhanbarth daearyddol a diwylliannol sy'n ymestyn dros ran o Ffrainc ac Ynysoedd y Sianel Prydeinig

Normandi

Normandi

Key facts

enghraifft o'r canlynolardal hanesyddol
gwladwriaethFfrainc
prifddinasCaen
disgrifiwyd gan y ffynhonnellGwyddoniadur Nuttall
All data from the card 6
Math
ardal hanesyddol
Enwyd ar ôl
Llychlynnwyr
Prifddinas
Caen, Rouen, Saint Helier, St Peter Port
Gwlad
Ffrainc
Yn ffinio gyda
province of Brittany
Cyfesurynnau
49°N 0.000000°W
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â'r ardal ddaearyddol a diwylliannol. Am ranbarth gweinyddol Ffrainc, gweler Normandie (rhanbarth).

Mae Normandi (yn hanesyddol Norddmandi; Ffrangeg: Normandie, Ffrangeg Normanaidd: Normaundie) yn rhanbarth daearyddol a hanesyddol yr arferid ei alw'n Ddugiaeth Normandi. Lleolir Normandi ar hyd arfordir Ffrainc i'r de o Fôr Udd rhwng Llydaw i'r gorllewin a Picardi i'r dwyrain. Rhennir y diriogaeth rhwng sofraniaeth Ffrengig a Phrydeinig. Mae'r ardal sydd o dan sofraniaeth Ffrengig yn gorchuddio 30,627 km², sydd tua 5% o holl dir Ffrainc. Mae Ynysoedd y Sianel (y cyfeirir atynt fel yr Iles Anglo-Normandes yn Ffrangeg, sef yr 'Ynysoedd Eingl-Normanaidd') yn gorchuddio 194 km² ac yn cynnwys dwy feilïaeth, Guernsey a Jersey, ac mae'r ddwy ohonynt o dan reolaeth Coron Prydain, er nad ydynt yn rhan o'r DU.

Mae Haute-Normandie (Normandi Uchaf) yn cynnwys y départements Ffrengig Seine-Maritime ac Eure, tra bod Basse-Normandie (Normandi Isaf) yn cynnwys adrannau Orne, Calvados, a Manche.

Yn ystod Brwydr Normandi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth Normandi yn safle lanio ar gyfer ymosod ar Ewrop a'i rhyddhau o Natsïaeth yr Almaen.

Gweler hefyd

Read next

In 87 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article