

2 images
Un o Ynysoedd y Sianel yw Alderney (Ffrangeg: Aurigny; Auregnais: Aoeur'gny). Dyma'r mwyaf gogleddol o Ynysoedd y Sianel. Mae'n ynys fechan sy'n gorwedd tua 35 km i'r gogledd-ddwyrain o ynys Guernsey oddi ar arfordir région Normandie yn Ffrainc ac mae ganddi gysylltiad hanesyddol cryf gyda Normandi. Mae'n rhan o Feilïaeth Ynys y Garn.
Yn 2021 roedd ganddi boblogaeth o 2,102.
Enwogion
Bu farw'r cyflwynydd criced John Arlott yn Alderney ym 1991, ac mae wedi ei gladdu yno.
Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol
