factograf
CY

pentref ar Ynys Môn

Niwbwrch

Niwbwrch

Key facts

poblogaeth2,169
dechreuwyd1300
enghraifft o'r canlynolpentref
gwladwriaethy Deyrnas Unedig
lleolir yn yr ardal weinyddolYnys Môn
All data from the card 10
Math
pentref
Cysylltir gyda
Biwmares
Poblogaeth
2,169
Sefydlwyd
13 g
Gwlad
Cymru
Cyfesurynnau
53.1648°N 4.359°W
Cod OS
SH425655
Cod post
LL61
Etholaeth y Senedd
Bangor Conwy Môn
Etholaeth y DU
Llinos Medi (Plaid Cymru)

Tref yng nghymuned Rhosyr, Ynys Môn, ydy Niwbwrch (Saesneg: Newborough). Saif ar lôn yr A4080 rhwng Porthaethwy ac Aberffraw.

Yr eglwys

Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i Bedr a Phaul, yn hen. Adeilad â chorff hir a chul ydyw, a godwyd yn y 14g ar safle hŷn. Mae'r bedyddfaen hefyd yn dyddio o'r 12g ac o waith Cymreig lleol. Ychwanegwyd porth i'r eglwys yn y 15g. Ceir dau feddfaen hynafol yno, un ohonyn nhw gyda cherfwaith blodeuog a'r llall gyda'r arysgrif Hic jacet Dns Mathevs ap Ely arno ('Yma mae'r Arglwydd Mathew ap Eli yn gorffwys').

Hanes

Gwraig o Niwbwrch tua 1875; sylwer ar y patsyn clwt ar ei phen-elin.
Gwraig o Niwbwrch tua 1875; sylwer ar y patsyn clwt ar ei phen-elin.

Creuwyd y fwrdeistref newydd (ystyr llythrennol 'Niwbwrch') ar ddiwedd y 13g ar gyfer y Cymry a orfodwyd i ymadael â Llan-faes gan y Saeson. Cyn hynny roedd treflan fach yno ger Llys Rhosyr, un o brif lysoedd Tywysogion Gwynedd yn Oes y Tywysogion. Rhosyr oedd enw'r cantref hefyd.

Ar ganol y 14g ymwelodd Dafydd ap Gwilym â Niwbwrch a chanodd gywydd i foli'r dref a'i drigolion. Dyma'r llinellau agoriadol:

Hawddamawr, mireinmawr maith,
Tref Niwbwrch, trefn iawn gobaith,
A'i glwysdeg deml a'i glasdyr,
A'i gwin a'i gwerin a'i gwŷr,
A'i chwrw a'i medd a'i chariad,
A'i dynion rhwydd a'i da'n rhad.

Arglwydd Newborough

Dylid nodi nad oes gan y teitl hwn ddim byd i'w wneud yn uniongyrchol â Niwbwrch. Fe enwyd aelodau o deulu Glynllifon, Sir Gaernarfon yn arglwyddi Newborough wedi i Syr Thomas Wynn gael ei ddyrchafu i farwnyddiaeth Iwerddon yn y 18g. Fe ddewisodd y teitl "Arglwydd Newborough" sef arglwydd tref Newborough yn Contae Loch Garmon (swydd Llwch Garmon); erbyn heddiw, newidiwyd enw Newborough i Guaire neu 'Gorey'. Mae'n debyg mai oherwydd i Thomas Wynn fod yn berchen ar ychydig o leiniau o dir ym mhlwyf Niwbwrch y dewisodd yr enw, trwy weld hwylustod y cyd-ddigwyddiad o ran enw'r ddau le. Cwbl anghywir felly yw cyfeirio at "Arglwydd Niwbwrch".

Natur

Mae Niwbwrch yn cynnwys llawer o flodau fel clychau'r gog, blodyn ymenyn a pabi coch. Mae gan Niwbwrch y systymau twyni gorau yn Mhrydain

Atyniadau

Pobl

Llyfrau hanes lleol

  • Hanes Niwbwrch. Owen Williamson (1895) ar Wicidestun
  • Hanes plwyf Niwbwrch ym Môn. Hugh Owen (1952)
  • Hanes byr Ebeneser, Niwbwrch (1785-1985). Derec Llwyd Morgan (1985)
  • Plethwyr moresg Niwbwrch Miriam Griffiths (1998)

Oriel

3 images

Cyfeiriadau

Read next

In 11 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article