factograf
CY

pentref ar Ynys Mon

Gwalchmai

Gwalchmai

Key facts

poblogaeth1,009
enghraifft o'r canlynolpentref
gwladwriaethy Deyrnas Unedig
lleolir yn yr ardal weinyddolTrewalchmai
All data from the card 6
Math
pentref
Poblogaeth
1,009
Gwlad
Cymru
Cyfesurynnau
53.25°N 4.42°W
Etholaeth y Senedd
Bangor Conwy Môn
Etholaeth y DU
Llinos Medi (Plaid Cymru)
Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Gwalchmai (gwahaniaethu).

Pentref yng nghymuned Trewalchmai, Ynys Môn, yw Gwalchmai( ynganiad). Fe'i lleolir ar hyd yr A5, tua 5 milltir i'r gorllewin o dref Llangefni.

Yn agos iddo mae Llyn Hendref a Chors Bodwrog. Gwalchmai yw'r pentref sydd agosaf i 'gae Primin' (Sioe Amaethyddol Môn). I'r dwyrain o'r pentref i gyfeiriad Bodffordd ceir llain lanio sy'n perthyn i RAF Valley.

C.P.D Gwalchmai yw'r tîm pêl-droed lleol, ac maent yn chwarae eu gemau cartref yn y stadiwm 'Burn-a-Ball' ym Maes Meurig.

Trewalchmai

Mae'n bosibl fod enw'r bardd Gwalchmai ap Meilyr yn cael ei goffháu yn enw'r pentref. "Trewalchmai" oedd yr hen enw, sy'n cofnodi'r ffaith fod y dreflan a'i thir wedi cael ei rhoi i'r bardd am ei wasanaeth i'r tywysog Owain Gwynedd. Gelwir y gymuned mae Gwalchmai yn ganolfan iddi yn Drewalchmai.

Cadwraeth

Cyfeiriadau

Read next

In 10 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article