factograf
CY

Nefertiti

Nefertiti

Key facts

dyddiad geni1370 BC
dyddiad marw1330 BC
galwedigaethbrenhines cyflawn
man geniThebes
priodAkhenaten
swyddbrenhines
All data from the card 9
Ganwyd
c. 1370 CC Thebes
Bu farw
c. 1330 CC Amarna
Dinasyddiaeth
yr Hen Aifft
Galwedigaeth
brenhines cyflawn
Swydd
brenhines, Pharo
Tad
Ay
Priod
Akhenaten
Plant
Neferneferuaten Tasherit, Neferneferure, Setepenre, Meritaten, Meketaten, Ankhesenamun
Llinach
Eighteenth Dynasty of Egypt



Nefertiti
yn hieroglyffau

Roedd Nefertiti (Ystyr: "y prydferthwch sydd wedi dod") yn brif wraig i frenin yn Hen Aifft Amenhotep IV (yn ddiweddarach Akhenaten). Mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu ei bod wedi rheoli'r Aifft ar ei phen ei hun am gyfnod byr ar ôl marwolaeth Akhenaten.

Daeth Nefertiti yn enwog oherwydd y cerflun ohoni sy'n awr yn yr Altes Museum, Berlin. Mae'r cerflun yma, a gludwyd i Berlin wedi ei ddarganfod yn ystod ymchwil archaeolegol yng ngweddillion gweithdy'r cerflunydd Thutmose, ymhlith y mwyaf adnabyddus o holl weithiau celf yr Hen Aifft.

Nid oes sicrwydd pwy oedd rhieni Nefertiti, ond y farn gyffredinol ar hyn o bryd yw ei bod yn ferch i Ay, a ddaeth yn frenin ei hun yn ddiweddarach. Cafodd chwe merch gydag Akhenaten:

  • Meritaten 1350 CC).
  • Meketaten (1349 CC).
  • Ankhesenamen, a briododd Tutankhamun yn ddiweddarach.
  • Neferneferuaten Tasherit (1344 CC)
  • Neferneferure (1341 CC).
  • Setepenre (1339 CC).

Rhoddir amlygrwydd mawr i Nefertiti yn arlunwaith y cyfnod, gyda'r brenin yn cael ei ddangos yn rheolaidd yn ei chwmni ac yn aml gyda'u merched. Mae'n diflannu o'r cofnodion tua 1336 CC.

Read next

In 102 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article