factograf
CY

talaith yn Unol Daleithiau America

Michigan

Michigan
All data from the card 21
Arwyddair
Pure Michigan
Math
taleithiau'r Unol Daleithiau
Enwyd ar ôl
Y Llynnoedd Mawr
Prifddinas
Lansing
Poblogaeth
10,077,331
Sefydlwyd
26 Ionawr 1837
Anthem
My Michigan
Pennaeth llywodraeth
Gretchen Whitmer
Cylchfa amser
Cylchfa Amser y Dwyrain, Cylchfa Amser Canolog, America/Efrog Newydd, UTC−05:00
Gefeilldref/i
Shiga, Saga
Rhan o'r canlynol
Midwestern United States, taleithiau cyfagos UDA
Gwlad
Unol Daleithiau America
Arwynebedd
250,493 km²
Uwch y môr
275 metr
Gerllaw
Llyn Michigan, Llyn Superior, Llyn Erie, Llyn Huron, Llyn St. Clair, Afon Detroit, Afon St. Clair, Afon St. Marys
Yn ffinio gyda
Wisconsin, Ohio, Indiana, Ontario, Minnesota, Illinois
Cyfesurynnau
44.34°N 85.58°W
Corff gweithredol
State of Michigan
Corff deddfwriaethol
Michigan Legislature
Swydd pennaeth y Llywodraeth
Governor of Michigan
Pennaeth y Llywodraeth
Gretchen Whitmer
Lleoliad Michigan yn yr Unol Daleithiau
Lleoliad Michigan yn yr Unol Daleithiau

Mae Michigan yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, a amgylchynir o'r gorllewin i'r dwyrain gan rai o'r Llynnoedd Mawr; Llyn Superior, Llyn Huron, Llyn Michigan, Llyn Erie a Llyn St. Clair. Mae Culfor Mackinac yn ei rhanu'n ddwy ardal ar wahân: y Gorynys Isaf yn y de (sef iseldiroedd) a'r Gorynys Uchaf yn y gogledd (islediroedd yn y dwyrain ac ucheldiroedd yn y gorllewin). Yn y Gorynys Isaf mae trwch y boblogaeth yn byw.

Y Ffrancod oedd yr Ewropeaidd cyntaf i archwilio'r ardal a hynny yn yr 17g, ac arhosodd y wlad dan reolaeth Ffrainc hyd 1763 pan gafodd ei gipio gan Loegr a'i hychwanegu i diriogaeth Canada. Daeth i feddiant yr Unol Daleithiau yn 1783 a daeth yn dalaith yn 1837. Lansing yw'r brifddinas. Tarddia enw'r dalaith o'r addasiad Ffrengig o'r term Ojibwe, "mishigma", sydd golygu "dŵr mawr" neu "lyn mawr".

Michigan yw'r wythfed talaith mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau. Mae ganddi un o arfordiroedd dŵr ffres hiraf yn y byd, am ei bod yn ffinio â phedwar o'r Llynnoedd Mawr yn ogystal â Llyn St Clair. Yn 2005, roedd Michigan yn drydydd o ran y nifer y cychod adloniannol a oedd wedi'u cofrestru yno, ar ôl Califfornia a Fflorida. Mae gan Michigan 64,980 o lynnoedd mewndirol. Pan fo person yn y dalaith, nid ydynt yn fwy na chwech milltir (10 km) o ffynhonnell o ddŵr naturiol, neu'n fwy na 87.2 milltir (137 km) o arfordir y Llynnoedd Mawr.

Michigan yw'r unig dalaith sy'n cynnwys dau benrhyn yn unig. Weithiau, cyfeirir at y Penrhyn Isaf fel "y faneg" oherwydd ei siâp. Mae'r Penrhyn Uchaf wedi cael ei wahanu o'r Penrhyn Isaf gan Gulfor Mackinac, sianel pum milltir (8 km) sy'n cyfuno Llyn Huron i Lyn Michigan. Mae'r Penrhyn Uchaf yn bwysig i'r dalaith am resymau economaidd oherwydd y twristiaid a'r adnoddau naturiol sydd yno.

Dinasoedd a bwrdeistrefi pwysig

Nenlinell Detroit ar hyd Afon Detroit
Nenlinell Detroit ar hyd Afon Detroit
Nenlinell Y Grand Rapids yng nghanol Afon Grand
Nenlinell Y Grand Rapids yng nghanol Afon Grand
Machlud haul yn Lansing
Machlud haul yn Lansing
Nenlinell Ann Arbor fel y'i gwelir o Stadiwm Michigan
Nenlinell Ann Arbor fel y'i gwelir o Stadiwm Michigan
4 images

Yn ôl amcangyfrifon cyfrifiad 2007, bwrdeistrefi mwyaf Michigan yw:

Safle Dinas Poblogaeth Delwedd
1 Detroit 916,952
2 Grand Rapids 193,627
3 Warren 134,223
4 Sterling Heights 127,349
5 Ann Arbor 115,092
6 Lansing 114,947
7 Flint 114,662
8 Maesdref Clinton 96,253
9 Livonia 93,931
10 Dearborn 89,252

Mae'r dinasoedd pwysig eraill yn cynnwys:

  • Battle Creek ("Cereal City U.S.A.", pencadlys rhyngwladol Cwmni Kellogg)
  • Benton Harbor / St. Joseph (pencadlys Corfforaeth Whirlpool)
  • Dwyrain Lansing (cartref Prifysgol Talaith Michigan)
  • Fremont (cartref Gerber Products Company)
  • Jackson (pencadlys CMS Energy)
  • Kalamazoo (Dinas fwyaf yn ne-orllewin Michigan ac yn gartref i Brifysgol Gorllewin Michigan)
  • Manistee (cartref i ffatri halen fwyaf y byd, sy'n eiddo i Morton Salt)
  • Marquette (y ddinas fwyaf ym Mhenrhyn Uchaf Michigan gyda 19,661 o bobl ac yn gartref i Brifysgol Gogledd Michigan)
  • Midland (pencadlys Cmwni Cemegol Dow a Chorfforaeth Ŷd Dow.)
  • Mount Pleasant (cartref Prifysgol Canolog Michigan)
  • Muskegon (dinas fwyaf Michigan ar Lyn Michigan)
  • Pontiac (canolfan fawr i gynhyrchu ceir, a chartref y Pontiac Silverdome)
  • Saginaw (y mwyaf o'r Tri-Cities, sydd hefyd yn cynnwys Bay City a Midland, ac yn gartref i Brifysgol Talaith Dyffryn Saginaw)
  • Sault Ste. Marie (cartref y Soo Locks a Phont Rhyngwladol Sault Ste. Marie)
  • Dinas Traverse ("Prif ddinas Ceirios y Byd", gan wneud Michigan yn brif gynhyrchydd ceirios yn y wlad)
  • Ypsilanti (cartref Prifysgol Dwyrain Michigan)

Lleolir hanner o gymunedau mwyaf cefnog y dalaith yn Swydd Oakland, ychydig i'r gogledd o Detroit. Lleolir cymuned cefnog arall ychydig i'r dwyrain o'r ddinas, yn Grosse Pointe. Dim ond tri o'r rhain sydd wedi'u lleoli y tu allan i Detroit Fetropolitanaidd. Mae dinas Detroit ei hun, gydag incwm y pen o $14,717, yn 517fed ar y rhestr o leoliadau ym Michigan o ran pres y pen. Benton Harbor yw'r ddinas dlotaf ym Michigan, gyda incwm y pen o $8,965, tra bod Barton Hills y mwyaf cyfoethog gyda phres y pen o $110,683.

Eginyn erthygl sydd uchod am Michigan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

In 196 languages

cyAfrikaansአማርኛaragonésÆngliscالعربيةܐܪܡܝܐالدارجةمصرىasturianuAymar aruazərbaycancaتۆرکجهBasa BaliBoarischžemaitėškaBikol Centralбеларуская (тарашкевіца)беларускаябългарскиभोजपुरीBislamaবাংলাབོད་ཡིགবিষ্ণুপ্রিয়া মণিপুরীbrezhonegbosanskiбуряадcatalàChavacano de Zamboanga閩東語 / Mìng-dĕ̤ng-ngṳ̄нохчийнCebuanoکوردیcorsuqırımtatarcačeštinaчӑвашлаdanskdagbanliDeutschZazakieʋegbeΕλληνικάemiliàn e rumagnòlEnglishEsperantoespañoleestieuskaraفارسیsuomiføroysktfrançaisarpetanNordfriiskFryskGaeilgeGagauzGàidhliggalegoAvañe'ẽ𐌲𐌿𐍄𐌹𐍃𐌺GaelgHausa客家語 / Hak-kâ-ngîHawaiʻiעבריתहिन्दीFiji HindihrvatskihornjoserbsceKreyòl ayisyenmagyarհայերենԱրեւմտահայերէնinterlinguaBahasa IndonesiaInterlingueIgboIñupiatunIlokanoIdoíslenskaitaliano日本語JawaქართულიTaqbaylitKabɩyɛKumoringқазақша한국어къарачай-малкъарکٲشُرkurdîkernowekкыргызчаLatinaLadinoLëtzebuergeschLingua Franca NovaLimburgsLigureLadinlombardລາວlietuviųlatviešuमैथिलीMalagasyолык марийMāoriмакедонскиമലയാളംмонголꯃꯤꯇꯩ ꯂꯣꯟमराठीкырык марыBahasa Melayuမြန်မာဘာသာمازِرونیNedersaksiesPlattdüütschनेपालीनेपाल भाषाNederlandsnorsk nynorsknorskDiné bizaadoccitanиронਪੰਜਾਬੀKapampanganPapiamentuPicardपालिpolskiPiemontèisپنجابیپښتوportuguêsRuna Simirumantschromânăрусскийसंस्कृतम्саха тылаsardusicilianuScotsسنڌيdavvisámegiellasrpskohrvatski / српскохрватскиසිංහලSimple EnglishslovenčinaslovenščinaanarâškielâSoomaaligashqipсрпски / srpskiSeeltersksvenskaKiswahiliślůnskiதமிழ்తెలుగుтоҷикӣไทยTagalogtolışitoki ponaTürkçeтатарча / tatarçachiTumbukaئۇيغۇرچە / Uyghurcheукраїнськаاردوoʻzbekcha / ўзбекчаvènetoTiếng ViệtWest-VlamsVolapükWinaray吴语isiXhosaმარგალურიייִדישYorùbáVahcuenghZeêuws文言閩南語 / Bân-lâm-gí粵語中文

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article