factograf
CY
Sign in

Luke Evans

Luke Evans

Key facts

dyddiad geni15 Ebrill 1979
''alma mater''Canolfan Ddrama Llundain
galwedigaethactor ffilm, actor llwyfan, actor
man geniPont-y-pŵl
gwobrau a dderbyniwydGwobrau Teen Choice
gwaith pwysigBeauty and the Beast
All data from the card 8
Ganwyd
Luke George Evan 15 Ebrill 1979 Pont-y-pŵl
Man preswyl
Shoreditch
Dinasyddiaeth
Cymru
Alma mater
Canolfan Ddrama LlundainLondon Studio Centre
Galwedigaeth
actor ffilm, actor llwyfan, actor, canwr
Adnabyddus am
Beauty and the Beast, Pinocchio
Gwobr/au
Gwobrau Teen Choice
Gwefan
http://www.lukeevans.uk.com

Actor a chanwr o Gymru yw Luke Evans (ganwyd 15 Ebrill 1979).

Cychwynnodd gyrfa Evans ar y llwyfan, yn perfformio mewn nifer o gynyrchiadau West End Llundain yn cynnwys Rent, Miss Saigon, a Piaf cyn ennill ei ran Hollywood cyntaf yn chwarae rhan Apollo yn ail-gread 2010 Clash of the Titans. Yn dilyn hyn, fe'i castiwyd mewn ffilmiau cyffro ac acsiwn fel Immortals (2011), The Raven (2012), a'r ail-ddychmygiad o The Three Musketeers (2011), lle'r oedd yn chwarae rhan Aramis.

Yn 2013, serennodd Evans fel y prif wrthwynebydd Owen Shaw yn y ffilm fawr Fast & Furious 6, ac fe chwaraeodd Bard the Bowman yn addasiad tri-rhan Peter Jackson o lyfr The Hobbit gan J.R.R.Tolkien. Portreadodd y fampir Dracula yn y ffilm am wreiddiau'r stori, Dracula Untold.

Bywyd cynnar

Ganwyd Luke Evans ym Mhont-y-pŵl, a magwyd yn Aberbargoed, yng Nghwm Rhymni, yn unig blentyn i Yvonne a David Evans. Magwyd yn un o Dystion Jehofa, ond fe adawodd y grefydd pan adawodd ysgol yn 16 mlwydd oed.

Fe symudodd i Gaerdydd pan oedd yn 17 mlwydd oed, lle astudiodd o dan oruchwyliaeth Louise Ryan, athrawes ganu brofiadol. Yn 1997 enillodd ysgoloriaeth i'r London Studio Centre yn Kings Cross, London. Fe raddiodd yn 2000.

Gyrfa

Rhwng 2000 a 2008 serennodd Evans mewn nifer o gynyrchiadau yn West End Llundain yn cynnwys La Cava, Taboo, Rent, Miss Saigon a Avenue Q ynghyd â nifer o sioeau ymylol yn Llundain a Gŵyl Ymylol Caeredin.

Yn 2008, cafodd ei ran theatr fwyaf sylweddol wrth chwarae Vincent yn y ddrama Small Change wedi ei ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Peter Gill yn y Donmar Warehouse. Roedd yn rhan bwysig iddo gael ei adnabod gan gyfarwyddwyr ac asiantaethau castio yn yr Unol Daleithiau a fe'i henwebwyd am wobr yr Evening Standard am y newydd-ddyfodiad gorau. Yn hwyrach yn yr un flwyddyn fe wnaeth ei ail sioe yn y Donmar Warehouse, Piaf, lle'r oedd yn chwarae rhan Yves Montand.

Cafodd Evans ei glyweliad ffilm cyntaf yn dri deg oed. Yn 2009 fe gafodd ei ran ffilm cyntaf yn chwarae'r duw Groegaidd Apollo yn ail-gread Clash of the Titans. Hefyd yn 2010 fe ymddangosodd fel Clive yn y ffilm Sex & Drugs & Rock & Roll, a gyfarwyddwyd gan Matt Whitecross, fel llabwst y Siryf Nottingham yn Robin Hood, wrth ochr Matthew Macfadyen (a fyddai eto yn chwarae wrth ei ochr yn The Three Musketeers), a chwaraeodd y dyn da ei law Andy, yn ffilm y cyfarwyddwr Stephen Frears - Tamara Drewe, wedi seilio ar stribed comig Posy Simmond. Aeth Evans ymlaen i bortreadu DI Craig Stokes yn Blitz (2011), addasiad ffilm o nofel Ken Bruen o'r un enw, lle serennodd gyda Jason Statham a Paddy Considine. Yn gynnar yn 2010, fe saethodd y ffilm annibynnol, Flutter, wedi ei gyfarwyddo gan Giles Borg.

Chwaraeodd Evans ran Mysgedwr Aramis yn fersiwn Paul W. S. Anderson o The Three Musketeers (ffilmiwyd yn 2010 ryddhawyd yn 2011). Fe'i castiwyd mewn prif ran yn epic Groegaidd Tarsem Singh - Immortals (2011), lle'r oedd yn chwarae Brenin y Duwiau, Zews. Ar ddiwedd 2010, gymerodd ran gyferbyn John Cusack yn ffilm James McTeigue -The Raven, gan gymryd lle Jeremy Renner. Yn y ffilm, a ryddhawyd yn 2012, sydd wedi ei osod yn Baltimore yng nghanol yr 19g, roedd Evans yn chwarae Ditectif Emmett Fields, sy'n ymchwilio i gyfres o lofruddiaethau ochr yn ochr â pherfformiad Cusack o Edgar Allan Poe. Fe saethwyd y ffilm yn Budapest a Serbia yn Nhachwedd 2010. Yn 2011 fe saethodd No One Lives, ffilm arswyd seicolegol a gyfarwyddwyd gan Ryuhei Kitamura, yn New Orleans, a dechreuodd ffilmio rhan yn addasiad tri rhan Peter Jackson o lyfr The Hobbit gan J. R. R. Tolkien, yn chwarae rhan Bard the Bowman.

Yn 2013, fe wnaeth Evans chwarae rhan Owen Shaw yn Furious 6, ac yn 2014, chwaraeodd Dracula yn y ffilm Dracula Untold.

Castiwyd Evans fel Eric Draven yn ail-ddychmygiad o ffilm The Crow. Yn Ionawr 2015, fe gyhoeddwyd ei fod wedi gadael y prosiect yn swyddogol i ganolbwyntio ar brosiectau eraill. Yn Mehefin 2014, ymunodd Evans gyda chast y ffilm High-Rise gyda Tom Hiddleston a Jeremy Irons. Yn Hydref 2014, cyhoeddwyd ei fod wedi arwyddo i serennu yn Free Fire, i'w gyfarwyddo gan Ben Wheatley ac yn cyd-serennu Cillian Murphy, Olivia Wilde a Armie Hammer. Yn Mawrth 2015, cyhoeddwyd ei fod am chwarae rhan y dihiryn Gaston yn ail-gread Disney o Beauty and the Beast, sy'n cyd-serennu Emma Watson.

Bywyd personol

Mae Evans yn agored hoyw. Mewn cyfweliad o 2002, dywedodd, "Roedd pawb yn fy nabod i fel dyn hoyw, ac yn fy mywyd yn Llundain wnes i byth trio ei guddio," a thrwy fod yn agored ni fyddai ganddo "y sgerbwd hynny yn y cwpwrdd gallen nhw ei ddatgelu". Yn 2004 dywedodd nad oedd ei yrfa actio wedi dioddef o fod allan. Yn 2014 fe wnaeth Evans gydnabod y pwysigrwydd o farchnadwyedd ac er nad yw'n cuddio ei rywioldeb, mae'n gyndyn o'i drafod gyda'r cyfryngau. Mae cyfryngau Sbaen wedi adrodd ei fod mewn perthynas gyda'r model Jon Kortajarena.

Yn 2015, enwyd Evans gan gylchgrawn GQ fel un o'r 50 dyn sy'n gwisgo orau.

Ffilmyddiaeth

Evans yn Ionawr 2014
Evans yn Ionawr 2014
Blwyddyn Ffilm Rhan Nodiadau
2002 Taboo Billy Fideo
2009 Don't Press Benjamin's Buttons Tad Benjamin Ffilm fer
2010 Cowards and Monsters Paul Ffilm Fer
2010 Sex & Drugs & Rock & Roll Clive Richards
2010 Clash of the Titans Apollo
2010 Robin Hood Llabwst y Siryf
2010 Tamara Drewe Andy Cobb
2011 Blitz DI Craig Stokes
2011 The Three Musketeers Aramis
2011 Immortals Zews
2011 Flutter Adrian
2012 Ashes Crewcut
2012 The Raven Inspector Emmett Fields
2012 No One Lives Gyrrwr
2012 The Hobbit: An Unexpected Journey Girion, Lord of Dale Fersiwn Estynedig yn unig
2013 Fast & Furious 6 Owen Shaw
2013 The Hobbit: The Desolation of Smaug Bard / Girion, Lord of Dale
2013 The Great Train Robbery Bruce Reynolds Cyfres deledu: 2 bennod
2014 Dracula Untold Vlad III Țepeș / Dracula
2014 The Hobbit: The Battle of the Five Armies Bard
2015 Furious 7 Owen Shaw Cameo
2015 High-Rise Richard Wilder
2016 Message from the King Wentworth Yn ôl-gynhyrchu
2016 The Girl on the Train Scott Yn ffilmio
2017 Beauty and the Beast Gaston Yn ôl-gynhyrchu
2019 StarDog and TurboCat Felix

Gwobrau ac enwebiadau

Blwyddyn Gwobr Categori Canlyniad Gwaith
2014 Gŵyl Deledu Monte-Carlo Actor Eithriadol mewn Cyfres Enwebwyd The Great Train Robbery
2014 Gŵyl Ffilm Acapulco Black Cast Ensemble Gorau Enwebwyd Fast & Furious 6
2015 British Independent Film Awards Actor Cynorthwyol Gorau Enwebwyd High-Rise

Dolenni allanol

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 48 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article