Bywyd cynnar
Ganwyd Sula yng Nghymru. Mae ei mam o Drinidad ac o dras hanner Affro-Sbaenaidd a hanner Tsieineaidd tra bod ei thad o dras hanner Almaenaidd a hanner Estoniaidd. Fe'i magwyd yng Ngorseinon, lle cwblhawyd ei lefel A yn Sbaeneg, Ffrangeg a Drama yng Ngholeg Gorseinon.
Gyrfa
Fe wnaeth Sula ei ymddangosiad teledu cyntaf yn 2011, wrth bortreadu Grace Blood ym mhumed a chweched gyfres ddrama E4 i'r arddegau Skins. Yn ddiweddarach, cafodd ran yn nrama comedi Love and Marriage a ddarlledwyd ar ITV yn 2013. Yn 2015 castiwyd Sula fel Maddie Graham, y brif ran yn nrama Recovery Road ar sianel Freeform (ABC Family gynt), wrth ochr ei chyd-actor o Skins, Sebastian de Souza.
Mae ganddi ei rhan cyntaf ar y sgrîn fawr fel prif actores yn Honeytrap, stori merch 15 mlwydd oed sy'n trefnu llofruddiaeth bachgen sydd mewn cariad a hi.
Bywyd personol
Mae Sula yn chwarae'r gitâr ac yn ymarfer Karate.
Ffilmyddiaeth
| Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2011–12 | Skins | Grace Blood | Cyfres deledu E4 (14 pennod) canwr ym mhennod All because of you (pennod #6.1) |
| 2013 | Love and Marriage | Scarlett Quilter | Cyfres ITV (penodau) |
| 2014 | Honeytrap | Layla | Ffilm nodwedd |
| 2015 | Eye Candy | Morgan | Pennod (1.4): "YOLO" |
| 2016 | Recovery Road | Maddie Graham | Prif ran |
Dolenni allanol
- Jessica Sula ar wefan yr Internet Movie Database
- Jessica Sula ar X arTwitter
- Jessica Sula ar Instagram
Nodyn:Rheol awdurdod
