factograf
CY
Sign in

actores a aned yn Encino yn 1963

Lisa Kudrow

Lisa Kudrow

Key facts

dyddiad geni30 Gorffennaf 1963
uchder173cm
''alma mater''Coleg Vassar
galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor
man geniEncino, Los Angeles
màs137 pwys
All data from the card 7
Ganwyd
Lisa Valerie Kudrow 30 Gorffennaf 1963 Encino, Los Angeles
Man preswyl
Beverly Hills
Dinasyddiaeth
Unol Daleithiau America
Alma mater
Coleg VassarWilliam Howard Taft Charter High SchoolThe Groundlings
Galwedigaeth
actor teledu, actor ffilm, actor, actor llais, actor cymeriad, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd teledu, sgriptiwr, digrifwr, ysgrifennwr
Taldra
173 centimetr
Pwysau
137 pwys

Mae Lisa Valerie Kudrow (ganed 30 Gorffennaf 1963) yn actores, comediwraig, ysgrifenwraig a chynhyrchwraig o'r Unol Daleithiau. Daeth i amlygrwydd byd-eang am chwarae'r rhan Phoebe Buffay yn y comedi sefyllfa teledu Friends, a derbyniodd sawl gwobr am ei pherfformiad, gan gynnwys Gwobr Emmy a dwy Wobr Screen Actors Guild.

Aeth yn ei blaen i gynyrchu, ysgrifennu a serennu yng ngyfres The Comeback ar HBO yn 2005. Adfywiwyd y rhaglen naw mlynedd yn ddiweddarach a dechreuodd yr ail gyfres ddarlledu yn Nhachwedd 2014. Mae hi hefyd yn serennu yn Web Therapy sydd yn ei phedwaredd gyfres ar Showtime, ac enwebwyd Kudrow am Wobr Emmy ar gyfer ei rhan yn y gyfres yn 2012. Mae'n un o'r uwch gynhyrchwyr ar raglen realiti TLC, Who Do You Think You Are, ac enwebwyd hi am Wobr Emmy dros Rhaglen-Realiti Rhagorol ar gyfer y gyfres yn 2012.

Mae Kudrow hefyd wedi ymddangos mewn sawl ffilm, gan gynnwys Romy and Michele's High School Reunion (1997), The Opposite of Sex (1998), Analyze This (1999) a'i dilyniant Analyze That (2002), Dr. Dolittle 2 (2001), Wonderland (2003), Happy Endings (2005), P.S. I Love You (2007), Bandslam (2008), Hotel for Dogs (2009), Easy A (2010) a Bad Neighbours (2014).

Trwy gydol ei gyrfa mae wedi derbyn deg enwebiad Gwobr Emmy, un-deg-dau enwebiad Gwobr Screen Actors Guild ac enwebiad Gwobr Golden Globe.

Read next

In 73 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article