factograf
CY

Gwobr Emmy

Gwobr Emmy

Key facts

dechreuwyd1949
enghraifft o'r canlynolgwobr teledu, grŵp o wobrau
gwladwriaethUnol Daleithiau America
All data from the card 5
Enghraifft o:
gwobr teledu, grŵp o wobrau
Crëwr
Academy of Television Arts & Sciences, National Academy of Television Arts and Sciences
Dechrau/Sefydlu
1949
Gwladwriaeth
Unol Daleithiau America
Gwefan
https://www.emmys.com/awards
Gwobr Emmy
Gwobr Emmy

Mae'r Wobr Emmy (sydd hefyd yn cael ei alw'n Emmy) yn wobr i rhaglenni sydd wedi'u cynhyrchu ar gyfer y teledu, yn debyg i'r Gwobrau Peabody ond maent yn ffocysu'n fwy ar adloniant. Ystyria nifer o bobl yr Emmy fel y fersiwn deledu o'r Oscars.

Cânt eu cyflwyno i adrannau amrywiol o'r diwydiant teledu, gan gynnwys rhaglenni adloniant, rhaglenni dogfen a newyddion a rhaglenni chwaraeon. Oherwydd hyn, caiff y gwobrau eu cyflwyno mewn nifer o seremonïau penodol i faes arbennig trwy gydol y flwyddyn. Maes mwyaf adnabyddus yw'r Gwobrau Emmy ar gyfer rhaglenni oriau brig sy'n anrhydeddu rhaglenni teledu Americanaidd yn ystod y oriau mwyaf poblogaidd (ac eithrio chwaraeon) a'r Gwobrau Emmy ar gyfer rhaglenni a ddarlledir yn ystod y dydd.

Mae tri mudiad gwahanol yn cyflwyno Gwobrau'r Emmy sef:

  • Academi Celfyddydau'r Teledu a'r Gwyddorau sy'n anrhydeddu adloniant yr oriau brig ac eithrio chwaraeon;
  • Academi Genedlaethol Celfyddydau'r Teledu a'r Gwyddorau sy'n anrhydeddu rhaglenni'r dydd, chwaraeon, newyddion a rhaglenni dogfen;
  • Academi Ryngwladol Celfyddydau'r Teledu a'r Gwyddorau sy'n anrhydeddu'r holl raglenni a gynhyrchir ac a ddarlledir yn wreiddiol y tu allan i'r Unol Daleithiau. Gweler Gwobr Emmy Rhyngwladol.

Read next

In 92 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article