Gwlad ar arfordir Gorllewin Affrica yw Liberia, yn swyddogol Gweriniaeth Liberia. Mae'n ffinio â Sierra Leone i'r gogledd-orllewin, Gini i'r gogledd, Arfordir Ifori i'r dwyrain, a Chefnfor yr Iwerydd i'r de a'r de-orllewin. Mae ganddi boblogaeth o tua 5.5 miliwn ac yn gorchuddio arwynebedd o 43,000 milltir sgwar (111,369 km2). Saesneg yw'r iaith swyddogol. Siaredir dros 20 o ieithoedd brodorol o fewn y wlad, gan adlewyrchu'r amrywiaeth ethnig a diwylliannol. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Monrovia.
Dechreuodd Liberia yn gynnar yn y 19g fel prosiect gan Gymdeithas Gwladychu America (ACS), a gredai y byddai pobl dduon yn cael gwell cyfleoedd a mwy o ryddid yn Affrica nag yn yr Unol Daleithiau. Rhwng 1822 a dechrau Rhyfel Cartref America ym 1861, symudodd mwy na 15,000 o Americanwyr Affricanaidd a ryddhawyd ac a aned yn rhydd, ynghyd â 3,198 o Affro-Caribïaid, i Liberia. Gan ddatblygu'n raddol hunaniaeth Amerig-Liberaidd, cariodd y gwladfawyr eu diwylliant a'u traddodiad gyda nhw tra'n gwladychu'r boblogaeth frodorol. Dan arweiniad yr Amerig-Liberiaid, datganodd Liberia annibyniaeth ar 26 Gorffennaf 1847, a chafodd ei gydnabod gan yr Unol Daleithiau tan 5 Chwefror 1862.
Liberia oedd y weriniaeth Affricanaidd gyntaf i gyhoeddi ei hannibyniaeth a hi yw gweriniaeth fodern gyntaf a hynaf Affrica. Ynghyd ag Ethiopia, roedd yn un o'r ddwy wlad yn Affrica i gadw'i sofraniaeth a'i hannibyniaeth yn ystod y "Yr Ymgiprys am Affricaa" trefedigaethol Ewropeaidd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ochrodd Liberia gydag Unol Daleithiau yn erbyn yr Almaen Natsïaidd ac yn ei dro derbyniodd fuddsoddiad Americanaidd sylweddol i gryfhau ei seilwaith. Anogodd yr Arlywydd William Tubman newidiadau economaidd a gwleidyddol a gynyddodd ffyniant a phroffil rhyngwladol y wlad; roedd Liberia'n un o sylfaenwyr Cynghrair y Cenhedloedd, y Cenhedloedd Unedig, a Sefydliad Undod Affrica.
Nid oedd y gwladfawyr Amerig-Liberaidd yn uniaethu'n dda â'r bobloedd brodorol y daethant ar eu traws. Ysbeiliwyd aneddiadau trefedigaethol gan y Kru a'r Grebo. Ffurfiodd y gwladfawyr Amerig-Liberiaid yn grwp elitaidd bach a oedd â grym gwleidyddol anghymesur, tra bod Affricanwyr brodorol wedi'u heithrio o ddinasyddiaeth genedigaeth-fraint yn eu gwlad eu hunain tan 1904.
Yn 1980, arweiniodd tensiynau gwleidyddol oherwydd rheolaeth William R. Tolbert mewn coup milwrol, yn nodi diwedd rheolaeth Amerig-Liberia ac atafaelu pŵer arweinydd brodorol cyntaf Liberia, Samuel Doe. Llofruddiwyd Doe yn 1990 yng nghyd-destun Rhyfel Cartref Cyntaf Liberia, rhwng 1989 a 1997 ac etholwyd arweinydd y gwrthryfelwyr Charles Taylor yn arlywydd. Ym 1998, cychwynodd Ail Ryfel Cartref Liberia yn erbyn ei unbennaeth ei hun, a chafodd Taylor ei ddymchwel erbyn diwedd y rhyfel yn 2003. Arweiniodd y ddau ryfel at farwolaeth 250,000 o bobl (tua 8% o'r boblogaeth) a dadleolwyd llawer mwy, gydag economi Liberia yn crebachu 90%. Arweiniodd cytundeb heddwch yn 2003 at etholiadau democrataidd yn 2005. Mae'r wlad wedi aros yn gymharol sefydlog ers hynny.
| Grwpiau ethnig yn Liberia | ||||
|---|---|---|---|---|
| Grwpiau Ethnig | canran | |||
| Kpelle | 20.3% | |||
| Bassa | 13.4% | |||
| Grebo | 10% | |||
| Gio | 8% | |||
| Mano | 7.9% | |||
| Kru | 6% | |||
| Lorma | 5.1% | |||
| Kissi | 4.8% | |||
| Gola | 4.4% | |||
| Krahn | 4% | |||
| Vai | 4% | |||
| Mandinka | 3.2% | |||
| Gbandi | 3% | |||
| Mende | 1.3% | |||
| Sapo | 1.2% | |||
| Belle | 0.8% | |||
| Dey | 0.3% | |||
| Liberiaid Eraill | 0.6% | |||
| Affricaniaid Eraill | 1.4% | |||
| Di-Affricaniaid | 0.1% | |||
Llywodraeth a gwleidyddiaeth

Mae'r arlywydd yn gwasanaethu fel pennaeth y llywodraeth, pennaeth y wladwriaeth, a phrif bennaeth Lluoedd Arfog Liberia. Ymhlith dyletswyddau eraill yr arlywydd mae llofnodi neu rhoi feto ar filiau deddfwriaethol, rhoi pardwnau, a phenodi aelodau'r Cabinet, barnwyr a swyddogion cyhoeddus eraill. Ynghyd â'r is-lywydd, etholir yr arlywydd i dymor o chwe blynedd trwy bleidlais fwyafrifol mewn system dwy rownd a gall wasanaethu hyd at ddau dymor yn y swydd.
Milwrol
Mae gan Luoedd Arfog Liberia (AFL) 2,010 o bersonél gweithredol yn 2023, gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u trefnu i'r canlynol:
- 23ain Frigâd Troedfilwyr, sy'n cynnwys dau fataliwn milwyr traed
- un cwmni peiriannydd, ac
- un cwmni heddlu milwrol.
Mae yna hefyd Warchodlu Arfordir Cenedlaethol bychan gyda 60 o bersonél a nifer o longau patrol. Roedd gan yr AFL Adain Awyr, ond mae ei holl awyrennau a chyfleusterau wedi bod yn segur ers y rhyfeloedd cartref. Mae yn y broses o ail-greu ei Adain Awyr gyda chymorth Awyrlu Nigeria. Mae Liberia wedi anfon ceidwaid heddwch i wledydd eraill ers 2013 fel rhan o deithiau'r Cenhedloedd Unedig neu ECOWAS, gyda'r mwyaf yn uned milwyr traed ym Mali, a niferoedd llai o bersonél yn Swdan, Guinea-Bissau, a De Swdan. Mae tua 800 o 2,000 o bersonél yr AFL wedi cael eu hanfon i Mali mewn sawl cylchdro cyn i genhadaeth y Cenhedloedd Unedig yno ddod i ben yn Rhagfyr 2023. Yn 2022 roedd gan y wlad gyllideb filwrol o US$18.7 miliwn.
Gorfodi'r gyfraith a throsedd
'Heddlu Cenedlaethol Liberia' yw heddlu cenedlaethol y wlad. Yn Hydref 2007 roedd 844 o swyddogion mewn 33 o orsafoedd yn Sir Montserrado, sy'n cynnwys Monrovia. Mae Academi Hyfforddi Genedlaethol yr Heddlu yn Ninas Paynesville. Ceir cryn hanes o lygredd ymhlith swyddogion yr heddlu, ac mae hyn wedi lleihau ymddiriedaeth y cyhoedd ynddynt. Nodweddir y diogelwch mewnol gan anghyfraith cyffredinol ynghyd â'r perygl y gallai cyn-ymladdwyr yn y rhyfel cartref ailsefydlu milisia i herio'r awdurdodau sifil.
Mae trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol yn digwydd yn Liberia ac ynddi hi mae'r nifer mwyaf o drais rhywiol yn erbyn menywod yn y byd. Trais rhywiol yw’r drosedd mwyaf cyffredin o bob ymyrraedd rhywiol. Merched glasoed sy'n dioddef fwyaf ac mae bron i 40% o'r troseddwyr yn ddynion sy'n oedolion y mae'r dioddefwyr yn eu hadnabod.
Mae cyfunrywioldeb gwrywaidd a benywaidd yn anghyfreithlon yn Liberia. Ar 20 Gorffennaf 2012 pleidleisiodd senedd Liberia yn unfrydol i ddeddfu deddfwriaeth i wahardd a throseddoli priodasau o'r un rhyw.
Llygredd
Mae llygredd yn endemig ar bob lefel o lywodraeth Liberia. Pan ddaeth yr Arlywydd Sirleaf i'w swydd yn 2006, cyhoeddodd mai llygredd oedd "y gelyn cyhoeddus mawr". Yn 2014 dywedodd llysgennad yr Unol Daleithiau i Liberia fod llygredd yno yn niweidio pobl trwy "gostau diangen i gynhyrchion a gwasanaethau sydd eisoes yn anodd i lawer o Liberiaid eu fforddio".
Sgoriodd Liberia 3.3 ar raddfa o 10 ar Fynegai Canfyddiadau Llygredd 2010. Roedd hyn yn golygu ei fod 87fed allan o 178 o wledydd ledled y byd ac yn 11fed o 47 yn Affrica Is-Sahara. Roedd y sgôr hwn yn cynrychioli gwelliant sylweddol ers 2007, pan sgoriodd y wlad 2.1 ac yn 150fed allan o 180 o wledydd. Wrth ddelio â swyddogion y llywodraeth sy'n wynebu'r cyhoedd, dywed 89% o Liberiaid eu bod wedi gorfod talu llwgrwobr, y ganran genedlaethol uchaf yn y byd yn ôl Baromedr Llygredd Byd-eang 2010 y sefydliad.
Economi

Mae Banc Canolog Liberia yn gyfrifol am argraffu a chynnal doler Liberia, prif arian cyfred Liberia (mae doler yr Unol Daleithiau hefyd yn arian cyfreithiol yn Liberia). Liberia yw un o wledydd tlotaf y byd, gyda chyfradd cyflogaeth ffurfiol o ddim ond 15%. Cyrhaeddodd CMC y pen ei uchafbwynt yn 1980 yn US$496 pan oedd yn debyg i un yr Aifft (ar y pryd). Yn 2011 CMC enwol y wlad oedd US$1.154 biliwn, tra bod CMC enwol y pen yn US$297, sef y trydydd isaf yn y byd. Yn hanesyddol mae economi Liberia wedi dibynnu'n fawr ar gymorth tramor, buddsoddiad tramor uniongyrchol ac allforio adnoddau naturiol fel mwyn haearn, rwber, a phren.
Demograffeg

Yn ôl Cyfrifiad 2017, roedd Liberia yn gartref i 4,694,608 o bobl, ychydig dros filiw yn fwy na Chymru. O'r rheini, roedd 1,118,241 yn byw yn Sir Montserrado, y sir fwyaf poblog yn y wlad a lleoliad y brifddinas Monrovia. Mae gan Ardal Monrovia Fwyaf 970,824 o drigolion. Sir Nimba yw'r ail sir fwyaf poblog, gyda 462,026 o drigolion.
Grwpiau ethnig
Saesneg yw'r iaith swyddogol ac mae'n gwasanaethu fel lingua franca Liberia. O 2022 ymlaen, siaredir 27 o ieithoedd brodorol yn Liberia. Mae Liberiaid hefyd yn siarad amrywiaeth o dafodieithoedd creol a elwir gyda'i gilydd yn Saesneg Liberaidd.
Addysg
Yn 2010, amcangyfrifwyd bod cyfradd llythrennedd Liberia yn 60.8% (64.8% ar gyfer dynion a 56.8% ar gyfer menywod). Mewn rhai ardaloedd mae addysg gynradd ac uwchradd yn rhad ac am ddim ac yn orfodol o 6 i 16 oed, er bod gorfodi presenoldeb yn beth prin. Mewn ardaloedd eraill mae'n ofynnol i blant dalu ffi dysgu i fynychu'r ysgol. Ar gyfartaledd, mae plant yn cyrraedd 10 mlynedd o addysg (11 i fechgyn ac 8 i ferched). Mae sector addysg y wlad yn cael ei rwystro gan ysgolion a chyflenwadau annigonol, yn ogystal â diffyg athrawon cymwys.
Darperir addysg uwch gan nifer o brifysgolion cyhoeddus a phreifat. Prifysgol Liberia yw prifysgol fwyaf a hynaf y wlad. Wedi'i lleoli yn Monrovia, agorodd y brifysgol ym 1862. Heddiw mae ganddi chwe choleg, gan gynnwys ysgol feddygol ac unig ysgol y gyfraith y wlad, sef Ysgol y Gyfraith Louis Arthur Grimes.
Yn 2009, sefydlwyd Prifysgol Tubman yn Harper, Sir Maryland fel yr ail brifysgol gyhoeddus yn Liberia. Ers 2006, mae'r llywodraeth hefyd wedi agor colegau cymunedol yn Buchanan, Sanniquellie, a Voinjama.
Fel canlyniad i brotestiadau myfyrwyr yn hwyr yn Hydref 2018, diddymodd yr arlywydd newydd, George Weah ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig mewn prifysgolion cyhoeddus yn Liberia.
Polygami
Mae traean o ferched priod Liberia rhwng 15-49 oed mewn priodasau amlbriod ac mae'r gyfraith yn caniatáu i ddynion gael hyd at bedair gwraig.
Chwaraeon
Y gamp fwyaf poblogaidd yn Liberia yw pêl-droed, gyda'r cyn-Arlywydd George Weah yn athletwr enwoca'r genedl. Hyd at 2013 ef oedd yr unig Affricanwr i gael ei enwi yn Chwaraewr Byd y Flwyddyn FIFA. Mae tîm pêl-droed cenedlaethol Liberia wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Cenhedloedd Affrica ddwywaith, yn 1996 ac yn 2002.
Yr ail gamp fwyaf poblogaidd yn Liberia yw pêl-fasged. Mae tîm pêl-fasged cenedlaethol Liberia wedi cyrraedd yr AfroBasket ddwywaith, yn 1983 ac yn 2007.
Yn Liberia, mae Canolfanau Chwaraeon Samuel Kanyon Doe yn stadiwm amlbwrpas. Mae'n cynnal gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA yn ogystal â chyngherddau rhyngwladol a digwyddiadau gwleidyddol cenedlaethol.
