Corff cydwladol a grëwyd ym 1920 oedd Cynghrair y Cenhedloedd. Fe'i sefydlwyd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r bwriad o sefydlu heddwch yn y byd. Cyfarfu am y tro cyntaf ar 10 Ionawr 1920, yng Ngenefa yn y Swistir.
Ymgorfforwyd 'Cyfamod Cynghrair y Cenhedloedd' (ei dogfen sefydlu) yn y cytundebau heddwch a wnaed ar ôl y Rhyfel Mawr, ond gwrthodai'r Unol Daleithiau dderbyn Cytundeb Versailles ac o ganlyniad cafodd ei diarddel o'r Gynghrair. Roedd hyn yn llesteirio gwaith y sefydliad o'r cychwyn cyntaf bron. Serch hynny, llwyddai'r Gynghrair i wneud gwaith pwysig yn datrys anghydfod, yn trefnu cyngresau rhyngwladol ar sawl pwnc ac yn cyflawni gwaith dyngarol.
Fodd bynnag, methodd y Gynghrair a delio â'r sefyllfa ryngwladol a ddatblygai yn y tridegau, megis rhyfel Siapan yn Tsieina, yr Eidal yn Ethiopia ac yn bennaf oll achos yr Almaen, a dynnodd allan o'r Gynghrair ym 1933.
Cymerodd y Cenhedloedd Unedig le'r Cynghrair ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Aberystwyth
Un o brif noddwyr a chefnogwyr y Gynghrair yng Nghymru oedd David Davies, Aelod Seneddol sir Drefaldwyn, ŵyr y diwydiannwr enwog o'r un enw ag ef. Roedd hefyd yn Llywydd Prifysgol Aberystwyth. Pan gynigiwyd, ym 1925, na ddylid cynnal y gynhadledd flynyddol (a oedd i fod yn Dresden), yn yr Almaen, cynigiodd David Davies Aberystwyth fel lleoliad iddi, a derbyniwyd hynny. Y flwyddyn wedyn, rhwng 29 Mehefin a 3 Gorffennaf 1926, cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Cynghrair y Cenhedloedd yn Aberystwyth..
Dyma rai o'r llefydd yr ymwelodd y Gynghrair â nhw:
- 1919 Paris
- 1919 Llundain
- 1919 Brwsel
- 1920 Milan
- 1920 Genefa
- 1922 Prag
- 1923 Fienna
- 1924 Lyon
- 1925 Warsaw
- 1926 Aberystwyth
- 1927 Berlin
- 1928 Yr Hâg
- 1928 Prag
- 1929 Madrid
- 1934 Brwsel
- 1936 Genefa
