Brand, gwneuthurwr ceir a math o gerbyd yw Land Rover sy'n arbenigo mewn cerbydau gyriant pedair olwyn. Perchennog Land Rover yw Jaguar Land Rover, a pherchennog y gwneuthurwr ceir Prydeinig hwnnw, ers 2008, yw Tata Motors o India. Ystyrir y 'Land Rover' gan Brydeinwyr fel eicon Prydeinig, a rhoddwyd Gwarant Brenhinol i'r cwmni gan Siôr VI yn 1951.
Bu 100% o'r cwmni Jaguar Land Rover ym meddiant Tata Motors ers 2008, pan brynnwyd ef gan Ford. Yn 2014 gwerthodd Tata 462,678 o gerbydau: 381,108 Land Rover a 81,570 o gerbydau Jaguar.
Cwmni Rover oedd perchennog gwreiddiol Land Rover pan gynhyrchwyd y gyfres Land Rover yn 1948. Cafwyd gwahanol fathau o'r cerbyd gyriant pedair olwyn, gan gynnwys y canlynol: Defender, Discovery, Freelander, Range Rover, Range Rover Sport a'r Range Rover Evoque. Cynhyrchir y cerbydau hyn yn Halewood a Solihull gyda'r gwaith ymchwil yn cael ei wneud yn Gaydon a Whitley. Yn 2009 gwerthwyd 194,000 o gerbydau.
Ym Medi 2013, cyhoeddwyd cynlluniau i agor canolfan ymchwil gwerth £100 miliwn ym Mhrifysgol Warwick, Coventry i gynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o gerbydau. Y nod oedd cyflogi mil o academyddion a pheiriannwyr i gynllunio ceir gyda'r dechnoleg ddiweddaraf.
Modelau



Cyfres 1; top caled; lansiwyd 1948 |
Range Rover Classic; cynhyrchwyd 1970 - 1996 |
Land Rover Defender; 1983–2016 |
SUV; 1970 - presennol; Range Rover (L405) |
Rhai o'r prif fodelau
Hanes
Cynlluniwyd y Land Rover gwreiddiol yn 1947 gan Maurice Wilks, prif gynllunydd y Rover Company gyda'i frawd Spencer, Prif Weithredwr Rover, ar ei fferm yn Niwbwrch, Ynys Môn. Credir i'r Jeep Americanaidd ddylanwadu ar y cynllun.
