
- Am bobl, pethau a lleoedd o'r un enw, gweler Kirov (gwahaniaethu).
Dinas yn Rwsia yw Kirov (Rwseg: Киров), hen enwau Vyatka (Вя́тка) a Khlynov (Хлы́нов), sy'n ganolfan weinyddol Oblast Kirov yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal Volga. Poblogaeth: 473,695 (Cyfrifiad 2010).
Fe'i lleolir yng nghanol Rwsia Ewropeaidd ar lan Afon Vyatka, fymryn i'r gorllewin o gadwyn Mynyddoedd yr Wral.
Sefydlwyd y ddinas gan fasnachwyr o Novgorod yn 1181.
Dolenni allanol
- (Rwseg) Gwefan swyddogol y ddinas Archifwyd 2015-05-03 yn y Peiriant Wayback
