factograf
CY
Sign in

dinas yng Ngorllewin Fflandrys, Gwlad Belg

Ieper

Ieper

Key facts

poblogaeth35,039
arwynebedd131km²
enghraifft o'r canlynolbwrdeistrefi Gwlad Belg
gwladwriaethGwlad Belg
iaith swyddogolIseldireg
gwobrau a dderbyniwydCroix de guerre 1914–1918
All data from the card 15
Math
bwrdeistrefi Gwlad Belg, Belgian municipality with the title of city
Prifddinas
Ieper
Poblogaeth
35,039
Pennaeth llywodraeth
Emmily Talpe
Gefeilldref/i
Semey, Siegen, Lehrte, Wa, Saint-Omer, Sittingbourne, Hiroshima
Iaith/Ieithoedd swyddogol
Iseldireg
Rhan o'r canlynol
Police Zone ARRO Ieper, Emergency zone Westhoek
Gwlad
Gwlad Belg
Arwynebedd
131.45 km²
Gerllaw
Canal Ypres-Comines
Yn ffinio gyda
Vleteren, Heuvelland, Poperinge, Lo-Reninge, Langemark-Poelkapelle, Zonnebeke, Comines-Warneton
Cyfesurynnau
50.8508°N 2.885°E
Cod post
8900, 8902, 8904, 8908, 8906
Swydd pennaeth y Llywodraeth
Mayor of Ypres
Pennaeth y Llywodraeth
Emmily Talpe
Lleoliad Ieper yng Ngwlad Belg
Lleoliad Ieper yng Ngwlad Belg

Dinas yng Ngwlad Belg yw Ieper (Ffrangeg: Ypres) gyda phoblogaeth o tua 34,900 ac wedi'i lleoli yng Ngorllewin Fflandrys, sy'n rhanbarth Fflemaidd. Fe'i dinistrwyd yn llwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond cafodd ei hailgodi, er gwaethaf dymuniad Churchill i gadw'r holl ddinas yn gofadail i'r milwyr hynny a fuodd farw. Fflemeg yw'r gair Ieper, sef iaith frodorol Gwlad Belg.

Bu yma dref ers dyddiau'r Rhufeiniaid.

Roedd Ieper yn safle strategol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf gan fod yr Almaenwyr yn cynllunio i fynd i Ffrainc o'r gogledd a chyrraedd yr arfordir. Roedd yr Almaenwyr yn amgylchynnu y dref o'r gogledd, y dwyrain a'r de ac yn ymosod arni drwy ran fwyaf o gyfnod y rhyfel.

Brwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf

  • Brwydr Gyntaf Ieper: 31 Hydref - 22 Tachwedd 1914
  • Ail Frwydr Ieper: 22 Ebrill - 25 Mai 1915
  • Brwydr Messines, 7 - 14 Mehefin 1917
  • Trydedd Brwydr Ieper (Brwydr Passchendaele): 21 Gorffennaf - 6 Tachwedd 1917
  • Pedwaredd Brwydr Ieper, 28 Medi - 2 Hydref 1918

Adeiladau a chofadeiladau

Neuadd Brethyn
Neuadd Brethyn
  • Amgueddfa Godshuis Belle
  • Bellewaerde
  • Eglwys Gadeiriol Sant Martin
  • Eglwys Sant Siôr
  • Neuadd Brethyn (gyda'r amgueddfa "In Flanders Fields")
  • Clwyd Menin - gyda 54,896 o enwau wedi'u cerfio arno
  • Mynwentydd

Enwogion

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Belg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 74 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article