factograf
CY

ymerawdwr Rhufeinig (395-423) (384-423)

Flavius Augustus Honorius

Flavius Augustus Honorius

Key facts

dyddiad geni9 Medi 384
dyddiad marw15 Awst 423
galwedigaethgwleidydd, brenin neu frenhines
man geniCaergystennin
man marwRavenna
All data from the card 10
Ganwyd
9 Medi 384 Caergystennin, Istanbwl
Bu farw
15 Awst 423 o edema Ravenna
Dinasyddiaeth
Rhufain hynafol
Galwedigaeth
gwleidydd, brenin neu frenhines
Swydd
Western Roman emperor, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig
Tad
Theodosius I
Mam
Aelia Flaccilla
Priod
Maria, Thermantia
Plant
Serena
Llinach
Llinach Theodosius

Roedd Flavius Honorius (9 Medi 384 – 15 Awst 423) yn Ymerawdwr Rhufeinig (393–395) ac yna'n Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin hyd ei farwolaeth.

Roedd yn fab ieuengaf i Theodosius I a'i wraig gyntaf Aelia Flaccilla. Cyhoeddwyd Honorius yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad, ar 23 Ionawr 393, yn naw oed. Ar farwolaeth ei dad yn Ionawr 395 rhannwyd yr ymerodraeth rhyngddo ef a'i frawd Arcadius, a ddaeth yn ymerawdwr yn y dwyrain.

Yn ystod y rhan gyntaf o'i deyrnasiad, roedd Honorius yn dibynnu ar y cadfridog Fandalaidd Stilicho. Priododd ferch Stilicho, Maria. Pan ymosododd y Fisigothiaid ar yr Eidal yn 402, symudodd Honorius y brifddinas i Ravenna. Yn ystod ei deyrnasiad bu nifer o wrthryfeloedd ac ymgeisiadau i gipio'r orsedd, ynghyd ag ymosodiadau gan y barbariaid. Yn 408 cymerwyd Stilicho i'r ddalfa a'i ddienyddio. Yn 410 cipiwyd Rhufain gan Alaric I, brenin y Fisigothiaid.

Bu farw Honorius yn 423, heb adael etifedd. Y flwyddyn ddilynol enwebodd yr ymerawdwr yn y dwyrain, Theodosius II, ei gefnder Valentinian III, mab Galla Placidia a Constantius III, yn ymerawdwr yn y gorllewin.

Rhagflaenydd:
Theodosius IYmerodron RhufainOlynydd:
Valentinian III

Read next

In 74 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article