factograf
CY

ymerawdwr Rhufain

Theodosius I

Theodosius I

Key facts

dyddiad geni11 Ionawr 347
dyddiad marw17 Ionawr 395
galwedigaethgwleidydd
man marwMilan
priodAelia Flaccilla
swyddymerawdwr Rhufain
All data from the card 12
Ganwyd
Theodosius 11 Ionawr 347 Coca, Italica
Bu farw
17 Ionawr 395 Milan
Dinasyddiaeth
Rhufain hynafol
Galwedigaeth
gwleidydd
Swydd
ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd, Conswl Rhufeinig
Dydd gŵyl
17 Ionawr
Tad
Flavius Theodosius
Mam
Thermantia
Priod
Aelia Flaccilla, Galla
Plant
Flavius Augustus Honorius, Arcadius, Pulcheria, Gratianus, Galla Placidia
Perthnasau
Serena
Llinach
Llinach Theodosius, Valentinianic dynasty

Roedd Flavius Theodosius (11 Ionawr 347 – 17 Ionawr 395), a elwir hefyd yn Theodosiws I a Theodosiws Fawr, yn Ymerawdwr Rhufain rhwng 379 a 395. Ad-unodd rannau dwyreiniol a gorllewinol yr ymerodraeth, ac ef oedd yr ymerawdwr olaf i deyrnasu dros yr ymerodraeth gyfan. Gwnaeth Gristionogaeth yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.

Ganed Theodosiws yn Cauca (Coca heddiw) yn Sbaen. Roedd ei dad, hefyd o'r enw Theodosiws, yn swyddog uchel yn y fyddin. Aeth Theodosiws y mab gyda'i dad i Brydain yn 368, ac yna gwnaed ef yn reolwr milwrol (dux) talaith Moesia ar Afon Donaw yn 374. Yn fuan wedyn dienyddiwyd ei dad, a dychwelodd Theodosiws i Cauca.

O 375 ymlaen, roedd tri ymerawdwr yn rheoli darnau o'r ymerodraeth: Valens, Valentinian II a Gratian. Pan laddwyd Valens ym Mrwydr Adrianople yn 378, penododd Gratian Theodosiws yn ei le fel cyd-augustus yn y dwyrain. Lladdwyd Gratian mewn gwrthryfel yn 383, a chyhoeddodd Macsen Wledig (Magnus Maximus) ei hun yn gyd-ymerawdwr yn y gorllewin, gan feddiannu holl daleithiau'r gorllewin heblaw yr Eidal. Yn 387 ymosododd Macsen ar yr Eidal, ond gorchfygodd Theodosiws ef a'i ladd.

Bu farw Valentinian II yn 392, gan adael Theodosiws yn unig ymerawdwr. Cyhoeddodd y magister militum Arbogast gyd-ymerawdwr newydd, Eugenius, yn lle Valentinian. Ceisiodd Eugenius adfer paganiaeth, ond gorchfygwyd ef gan Theodosiws ym mrwydr Frigidus.

Priododd Theodosiws ddwywaith. Gan ei wraig gyntaf, Aelia Flaccilla, cafodd ddau fab, Arcadius a Honorius a merch, Pulcheria. Wedi marwolaeth Aelia Flaccilla yn 385, priododd Galla, merch Valentinian I, a chawsant ferch, Galla Placidia, mam yr ymerawdwr Valentinian III. Dilynwyd Theodosiws gan ei ddau fab, Honorius yn y gorllewin ac Arcadius yn y dwyrain.

Rhagflaenydd:
Gratianus
Valens a Valentinian II
Ymerawdwr Rhufain
379–395Olynydd:
Honorius (yn y gorllewin)
Arcadius (yn y dwyrain)

Read next

In 87 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article