factograf
CY
Sign in

actores

Dusty Springfield

Dusty Springfield

Key facts

dyddiad geni16 Ebrill 1939
dyddiad marw2 Mawrth 1999
galwedigaethcanwr, artist recordio, cyflwynydd teledu
man geniLlundain
man marwHenley-on-Thames
gwobrau a dderbyniwydOBE
All data from the card 12
Ffugenw
Dusty Springfield
Ganwyd
Mary Isobel Catherine Bernadette O'Brien 16 Ebrill 1939 Llundain
Bu farw
2 Mawrth 1999 Henley-on-Thames
Label recordio
United Artists Records, Atlantic Records, ABC Records, Philips Records, Mercury Records, Phonogram Records, Parlophone Records, 20th Century Fox Records
Dinasyddiaeth
y Deyrnas Unedig
Galwedigaeth
canwr, artist recordio, cyflwynydd teledu, cerddor
Arddull
cerddoriaeth yr enaid, rhythm a blŵs, cerddoriaeth boblogaidd, blue-eyed soul
Math o lais
mezzo-soprano
Tad
Gerard Anthony Joseph O'Brien
Mam
Kay Ryle
Gwobr/au
OBE, Rock and Roll Hall of Fame
Gwefan
http://dustyspringfieldofficial.com/

Roedd Mary Isabel Catherine Bernadette O'Brien OBE (16 Ebrill 1939 – 2 Mawrth 1999), a oedd yn cael ei hadnabod yn broffesiynol fel Dusty Springfield yn gantores bop o Loegr. O'r holl gantorion benywaidd a lwyddodd yn siartiau'r Unol Daleithiau, Springfield gafodd y dylanwad fwyaf ar y farchnad Americanaidd. Rhwng 1963 a 1970, llwyddodd 18 o'i senglau i gyrraedd y Billboard Hot 100. Cafodd ei phleidleisio'n Artist Benywaidd Prydeinig Gorau gan ddarllenwyr NME ym 1964, 1965 a 1968. Hefyd cafodd ei henwi ymysg y 25 perfformwraig roc benywaidd gorau erioed gan ddarllenwyr cylchgrawn Mojo, golygyddion cylchgrawn Q (2002) a chan banel o artistiaid ar y sianel deledu VH1 (2007).

Fel ffan o gerddoriaeth soul Americanaidd, crëodd Dusty Springfield sain soul unigryw. Disgrifiwyd ei llais unigryw gan Burt Bacharach fel: "...three notes and you knew it was Dusty." Atgyfnerthwyd ei delwedd gan ei gwallt perocsid ar siâp "cwch gwenyn", ei cholur llygaid trwchus a'i ffrogiau min nos. Arweiniodd y ffaith nad oedd Springfield erioed mewn perthynas yn gyhoeddus at bobl yn cwestiynu ei rhywioldeb trwy gydol ei bywyd.

Read next

In 48 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article