factograf
CY
Sign in

Daniel Scott

All data from the card 4
Ganwyd
20 g
Bu farw
Mai 2014
Dinasyddiaeth
Awstralia
Galwedigaeth
actor

Actor o Awstralia oedd Daniel Scott (bu farw Mai 2014) oedd yn fwyaf adnabyddus am ei berfformiad yn y cynhyrchiad llwyfan o Priscilla Queen of the Desert - the Musical.

Cafodd ei eni a'i fagu ym maesdrefi gorllewin Sydney ac erbyn ei fod yn 14 oed, roedd y bianydd medrus ac wedi ymddangos mewn cynyrchiadau niferus, gan gynnwys Oliver!, The Wizard of Oz, The Sound of Music, You're A Good Man Charlie Brown, Dick Whittington and His Cat a Desperado.

Astudiodd yng Ngholeg McDonald y Celfyddydau Creadigol a Theatr Ieuenctid Awstralia. Derbyniodd le hefyd yn y Theatr Gerddorol Americanaidd yn San Francisco. Enillodd amryw ysgoloriaethau wrth bobl fel Syr Cameron Mackintosh a Nicole Kidman mewn cydweithrediad â ATYP a LendLease Australia.

Cyn iddo ddechrau gyda Priscilla, cawsai ei andabod yn bennaf o "Dusty: The Original Pop Diva" a oedd yn seiliedig ar fywyd Dusty Springfield, lle crëodd cymeriadau'r "Eidalwr gwallgof" San Remo yn ogystal â Neil Tennant, Al Saxon ac Eden Kane. Yng nghynhyrchiad Adelaide o Shout! – The Musical, chwaraeodd rhan Johnny O'Keefe. Bu ar daith gyda'r Really Useful Group yn 2003–4 gyda thaith cynhyrchiad De Corea o Cats lle chwaraeodd rôl Rum Tum Tugger, rôl y dychwelodd iddo yn Athen yn 2005.

In 2 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article