Ynys Eidalaidd ym Môr y Canoldir yw Capri. Fe'i lleolir ym Môr Tirrenia, yn agos at Benrhyn Sorrento i'r de o Fae Napoli yn rhanbarth Campania. Mae wedi bod yn gyrchfan wyliau ers cyfnod y Weriniaeth Rufeinig. Mae prif dref Capri sydd wedi'i lleoli ar yr ynys yn rhannu'r enw.
Atyniadau ymwelwyr
- Faraglioni
- Grotta Azzurra
- Marina Piccola
- Villa Jovis
- Villa San Michele