factograf
CY

Canon (arf)

Canon (arf)

Gwn calibr mawr a ffurf ar fagnelaeth yw canon sydd yn lansio teflyn gan ddefnyddio tanwydd ffrwydrol, er enghraifft powdwr gwn.

Daw'r darluniau hynaf o ganonau o oes y Song yn Tsieina'r 12g, ond ni cheir tystiolaeth archaeolegol ohonynt nes y 13g. Defnyddiwyd canonau llaw gan luoedd y Yuan ym 1288, ac mae'r canon hynaf yn y byd sydd yn goroesi yn dyddio o'r un cyfnod. Erbyn blynyddoedd cynnar y 14g, ceir darluniadau o ganonau yn y Dwyrain Canol ac Ewrop, a chofnodion o ddefnydd yr arf ar faes y gad. Erbyn diwedd y 14g, defnyddiwyd canonau ar draws Ewrasia.

Yn y 15g datblygwyd canonau enfawr yn Ewrop, a fyddai'n cael eu dosbarthu'n dri fath: y canon brenhinol, neu ddwbl, a oedd yn pwyso tua 8,000 lbs ac yn saethu pelen o ryw 60 lbs; a'r canon cyfan, a oedd yn pwyso 7,000 lbs ac yn saethu pelen 40 lbs; a'r hanner-gannon a oedd yn pwyso 6,000 lbs ac yn saethu pelen 30 lbs. Cafwyd gynnau mawr tebyg yn ystod yr Oesoedd Canol gydag enwau gwahanol, gan gynnwys y cwlfrin a'r bwmbart.

Mathau

Canonau ysgeifn

  • Minion
  • Ffawconet

Canonau canol

  • Sacr
  • Cwlfrin

Canonau trymion

  • Basilisg
  • Bwmbart

Awto-ganonau

Read next

In 97 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article