factograf
CY

brenin chwedlonol Thebai a mab Agenor

Cadmos

Cadmos
All data from the card 3
Enghraifft o:
cymeriad chwedlonol Groeg, sefydlydd chwedlonol
Freebase
/M/0j_cs
Quora
Cadmus

Sylfaenydd chwedlonol Thebai Boeotia ym mytholeg Roeg oedd Cadmos (Hen Roeg: Κάδμος). Gyda Perseus a Bellerophon, ef oedd yr arwr a'r lladdwr anghenfilod mwyaf llwyddiannus cyn dyddiau Heracles. Derbynir hefyd, yn gyffredinol, ei fod yn dywysog Ffenicia, a mab y brenin Agenor a'r frenhines Telephassa o Tyrus, brawd Phoenix, Cilix ac Europa. Gallai olrhain ei wreiddiau yn ôl i Poseidon a Libya.

Yn wreiddiol, cafodd ei anfon gan ei rieni brenhinol i chwilio a hebrwng ei chwaer Ewropa yn ôl i Tyrus ar ôl iddi gael ei herwgipio o lannau Ffenicia gan Zews. Dywed rhai mai plant Ffenics (fab Agenor) oedd Cadmos ac Ewropa. Sefydlodd neu ailsefydlodd Cadmos ddinas Roegaidd Thebai, ac yn wreiddiol, fe 'elwid ei hacropolis yn Cadmeia er anrhydedd iddo.

Caiff hefyd y clod am sefydlu sawl dinas yn Illyria, fel Budva [Bouthoe] ac Ohrid [Lychnidus]. Mewn llenyddiaeth Roeg hynafol, mae diwedd naratif chwedlonol Cadmos a Harmonia yn gysylltiedig â chweldau pobloedd Enchelei a'r Illyriaid.

Read next

In 58 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article