factograf
CY

trasiedi Roegaidd gan Ewripides

Bacchai

Bacchai

Key facts

enghraifft o'r canlynolgwaith dramatig
awdurEwripides
genretrasiedi Roegaidd
All data from the card 8
Enghraifft o:
gwaith dramatig
Awdur
Ewripides
Iaith
Hen Roeg
Genre
trasiedi Roegaidd
Cymeriadau
Dionysos, Penthews, Agawe, maenad, Teiresias, Cadmos
Lleoliad y perff. 1af
Theatr Dionysos
Dyddiad y perff. 1af
405 CC
Lleoliad y gwaith
Thebai

Trasiedi Roegaidd hynafol gan Ewripides yw Bacchai (Hen Roeg: Βάκχαι), a adwaenir hefyd fel Y Bacchai neu Y Bacchantes. Cyfansoddwyd y ddrama yn ystod ei blynyddoedd olaf Ewripides ym Macedonia, yn llys y brenin Archelaos I. Llwyfannwyd y drasiedi am y tro cyntaf yn Theatr Dionysos yn 405 CC, ar ôl marwolaeth y dramodydd, fel rhan o detraleg oedd hefyd yn cynnwys Iphigeneia yn Aulis ac Alcmaeon yng Nghorinth, a tybir bod mab neu nai Ewripides wedi'i gyfarwyddo. Enillodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth gŵyl Dinas Dionysia.

Gareth Miles fu'n gyfrifol am "gyfaddasu" y ddrama i'r Gymraeg ym 1991 ar gyfer Dalier Sylw, gan ddefnyddio'r teitl Bacchai. Cyhoeddwyd ei gyfaddasiad gan Dalier Sylw a CAA yn yr un flwyddyn. Seiliwyd y cyfaddasiad ar gyfieithiad Ffrangeg Henri Grégoire a Jules Meunier, o'r ddrama wreiddiol gan Ewripides, wedi'i greu gan ddefnyddio ieithweddau Cymraeg hynafol.

Mae'r drasiedi wedi'i ganoli ar fyth Groegaidd y brenin Penthews o Thebai a'i fam Agawe, a gafodd eu cosbi gan y duw Dionysos (sy'n gefnder i Penthews) am wrthod ei gwlt. Mae'r ddrama'n agor gyda Dionysos yn cyhoeddi ei fod wedi cyrraedd Thebai gyda'i gefnogwyr i ddial am yr enllib, a ailadroddwyd gan ei fodrybedd, nad mab Zews mohono. Wedi'i guddio fel dyn sanctaidd o dramor, mae'r duw yn bwriadu cyflwyno defodau Dionysaidd i'r ddinas, ond mae'r Thebiaid yn gwrthod ei dduwdod ac mae'r brenin Penthews yn gorchymyn ei atal a'i arestio.

Gyrra Dionysos Penthews yn wallgof, gan ei ddenu i'r mynyddoedd. Mae'r ddrama'n gorffen gyda menywod Thebai, wedi'u cyflyru gan gynddaredd orgiastig Dionysos, yn rhwygo Penthews yn ddarnau, tra bod ei fam Agawe yn cludo ei ben ar bolyn i'w thad Cadmos.

Cymeriadau

Cymeriad Disgrifiad
Dionysios duw'r gwin
Penthews arglwydd Thebai
Cadmos sylfaenydd Dinas Thebai a thaid Penthews
Teiresias proffwyd dall, gweledydd
Agawe mam Penthews a merch Cadmos
Y Negesydd Cyntaf
Yr Ail Negesydd
Y Bacchai

Cynyrchiadau nodedig

Clawr cyfaddasiad Gareth Miles
Clawr cyfaddasiad Gareth Miles

Llwyfanwyd cyfaddasiad Gareth Miles am y tro cyntaf gan Dalier Sylw ym 1991. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Ceri Sherlock; cynllunydd Eryl Ellis; cast:

Read next

In 38 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article