- Am y ddinas o'r un enw yn yr Ariannin, gweler Córdoba, yr Ariannin.
Dinas hynafol yng nghymuned ymreolaethol Andalucía, de Sbaen, yw Córdoba (neu Cordova). Saif ar lannau Afon Guadalquivir.
Hanes
Cafodd ei gwneud yn brifddinas y Sbaen Mwraidd yn y flwyddyn 756 ac erbyn y 10g roedd wedi tyfu i fod y ddinas fwyaf yn Ewrop ac yn ganolfan ddiwylliant unigryw. Mosg oedd yr eglwys gadeiriol fawreddog sy'n sefyll yng nghanol y ddinas heddiw yn wreiddiol.
Mae ei diwydiannau traddodiadol yn cynnwys arianwaith a brodwaith. Roedd hefyd yn enwog am ledr, gymaint felly bod gair "cordwal" (yn y chwedlau brodorol Cymreig er enghraifft) yn cyfeirio at fath o ledr da.
Adeiladau a chofadeiladau

- Alcázar de los Reyes Cristianos
- Eglwys Gadeiriol (Mosg Fawr)
- Mausoleum
- Pont San Rafael
- Tŵr Calahorra
- Tŵr Donceles
Enwogion
- Marcus Annaeus Lucanus (39-65), bardd
- Averroes (1126-1198), athronydd
- Paco Peña (g. 1942), cerddor
- Joaquín Cortés (g. 1969), dawnswr
