
Seren yng nghytser Boötes yw Arcturus (hefyd α Boo, α Boötis, Alpha Boötis). Mae ganddi maint ymddangosol o −0.04. Dyma'r seren ddisgleiriaf a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd, a'r bedwaredd o'r sêr disgleiriaf yn y ddau hemisffer, ar ôl Sirius (−1.46), Canopus (−0.86), ac Alpha Centauri (−0.27). Mae Arcturus yn meddiannu un gornel o seroliaeth Triongl y Gwanwyn.
Mae'n seren gymharol agos, dim ond 36.7 ly o'r Ddaear, ac, ynghyd â Vega a Sirius, un o'r sêr mwyaf goleuol yng nghymdogaeth yr Haul.
Seren gawr goch o ddosbarth sbectrol K1.5 III yw Arcturus, gyda maint absoliwt o −0.30. Mae'n debyg ei fod wedi dihysbyddu ei hydrogen o'r craidd ac mae bellach yn ei gyfnod cawr coch gweithredol.
Yr enw "Arcturus" yw'r ffurf Ladinaidd o'r enw Groeg hynafol Ἀρκτοῦρος (Arktouros) sy'n golygu "Gwarchodwr yr Arth".
