factograf
CY

pedwaredd wraig Harri VIII, brenin Lloegr

Ann o Cleves

Ann o Cleves

Key facts

dyddiad geni28 Mehefin 1515
dyddiad marw16 Gorffennaf 1557
galwedigaethpendefig
man geniDüsseldorf
man marwLlundain
priodHarri VIII
All data from the card 10
Ganwyd
28 Mehefin 1515 Düsseldorf
Bu farw
16 Gorffennaf 1557 o canser Llundain
Dinasyddiaeth
United Duchies of Jülich-Cleves-Berg, Teyrnas Lloegr
Galwedigaeth
pendefig
Swydd
cymar teyrn Lloegr
Tad
John III, Duke of Cleves
Mam
Maria von Jülich-Kleve-Berg
Priod
Harri VIII
Perthnasau
Marie Eleonore o Kleve, Mari I, Elisabeth I, Edward VI
Llinach
Tŷ La Marck

Y bedwaredd o chwech gwraig Harri VIII, brenin Lloegr, oedd Ann o Cleves (22 Medi 1515 – 16 Gorffennaf 1557). Dim ond am chwe mis y parodd y briodas (Ionawr – Gorffennaf, 1540) cyn i Harri ei hysgaru.

Fe'i ganed yn Düsseldorf, yn ferch i Johann III, Dug Cleves, a'i wraig Maria. Priododd Harri ar 6 Ionawr 1540, ym Mhalas Placentia, Greenwich.

Comisiynodd Harri yr arlunydd Hans Holbein yr Ieuaf i beintio llun ohoni (a'i chwaer Amelia) gan fynnu y dylai Hans beintio llun gonest ohoni. Peintiodd ddau lun ac mae'r naill i'w weld yn y Louvre ym Mharis a'r llall yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain. Arwyddwyd y cytundeb priodasol yn Hydref 1539, wedi i Harri glywed fod Ann yn ferch dawel a oedd yn hoff iawn o chwarae cardiau a gwnïo. Cyfarfu'r ddau ar Ddydd Calan 1540, ac ym marn Harri, doedd hi ddim hanner mor ddel, ni allai ddarllen Saesneg ac nid oedd wedi derbyn addysg ffurfiol: She is nothing so fair as she hath been reported, dywedodd. Ymbiliodd Harri i Thomas Cromwell ddarganfod ffordd o beidio'i phriodi, heb droi'r Almaen yn eu herbyn.

Gan na chysgodd y ddau gyda'i gilydd ni choronwyd hi'n llwyr a galwyd hi'n 'Chwaer Annwyl y Brenin' (the King's Beloved Sister). Rhoddwyd setliad ariannol hael iddi a chadwodd ei phen.

Cyfeiriadau

Baner Yr AlmaenEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o'r Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 63 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article