factograf
CY
Sign in

teulu o adar

Albatros

Albatros

Key facts

enghraifft o'r canlynoltacson
enw tacsonDiomedeidae
safle tacsonteulu
disgrifiwyd gan y ffynhonnellGwyddoniadur Otto

Albatros yw'r enw a ddefnyddir am adar môr mawr yn perthyn i'r teulu Diomedeidae. Maent i'w cael yn rhan ddeheuol Cefnfor Iwerydd ac yn rhannau deheuol a gogleddol y Cefnfor Tawel. Treuliant y rhan fwyaf o'u hamser ar y môr, gan ddychwelyd i'r tir yn unig i fagu cywion. Caiff yr albatros ei adnabod fel y "mwyaf chwedlonol" o holl adar y Ddaear.

Mae'r albatrosiaid hynny sy'n perthyn i'r genws Diomedea, "yr albatrosiaid mawr", ymysg yr adar mwyaf sy'n medru hedfan. Mae'r adenydd yn hir a chul, sy'n eu galluogi i fanteisio ar y gwyntoedd i hedfan dros bellteroedd mawr heb ddefnyddio llawer o egni. Pan nad oes gwynt o gwbl, ni all llawer o'r albatrosiaid hedfan. Eu bwyd arferol yw pysgod bychain a krill.

O'r 21 rhywogaeth o albatros, ystyrir fod 19 ohonynt mewn perygl o ddiflannu. Y perygl mwyaf iddynt yw cychod pysgota sy'n defnyddio leiniau pysgota hir i ddal rhai rhywogaethau o bysgod; mae llawer o albatrosiaid yn cael eu dal ar y rhain.

Rhywogaethau

9 images

Rhestr Wicidata:

Diweddarwch y rhestr nawr | WQS | Chwiliwch am ddelweddau


teulu enw tacson delwedd
Albatros aelddu Thalassarche melanophris
Albatros brenhinol y De Diomedea epomophora
Albatros crwydrol Diomedea exulans
Albatros du cefnllwyd Phoebetria palpebrata
Albatros Laysan Phoebastria immutabilis
Albatros penllwyd Thalassarche chrysostoma
Albatros tonnog Phoebastria irrorata
Albatros troetddu Phoebastria nigripes
Albatros Ynys Amsterdam Diomedea amsterdamensis
Albatros Ynys Izu Phoebastria albatrus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Read next

In 96 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article