Urdd o adar yw'r Accipitriformes (Cymraeg: yr Eryrod (neu Gweilch): y bwncathod, yr eryrod, y fwlturiaid a llawer mwy. Ceir oddeutu 225 rhywogaeth o fewn yr urdd hon.
Am gyfnod, unwyd yr urdd hon gyda'r hebogau o fewn urdd y Falconiformes ond cytunodd sawl awdurdod eu bod ar wahân, yn ddwy urdd wahanol. Mae profion DNA diweddar yn dangos nad yw'r hebogau'n perthyn yn agos i'r Accipitriformes, ond yn hytrach yn perthyn yn nes i'r parot a'r adar o fewn yr urdd Passeriformes.
Nodweddion
Ceir tystiolaeth ffosil fod yr Accipitriformes yn bodoli o ganol yr Eosen. Mae ganddynt bigau bachog, miniog gyda chwyrbilen meddal, lle gorwedd y ffroenau. Mae eu hadennydd yn eitha llydan, yn hir ac mae eu coesau a'u traed (a'u crafangau) yn gryf iawn, gydag un crafangc yn y cefn. mae bron pob rhywogaeth o fewn yr urdd hon yn gigysydd. Fel arfer maen nhw'n hela yn y dydd neu'r cyfnos. Gwyddys fod gan rai oes hir iawn.
Teuluoedd

Rhestr Wicidata:
| teulu | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Fwlturiaid y Byd Newydd | Cathartidae |
